w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn


Newyddion

Hydref 2001

Dysgwr y Flwyddyn


- Y pedwar yn rownd derfynol (final) y gystadleuaeth eleni oedd Julie Jones, Spencer Harris, Richard Lovett a Fiona Marston.

Merch fferm o Lanandras (Presteigne), Powys ydy Julie Jones ac aelod o Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru. Mae hi'n defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith ac yn gymdeithasol.

Cafodd Richard Lovett ei eni ym Mangor ond symudodd y teulu i fyw yn Awstralia. Daeth Richard yn ôl i Gymru a dechrau dysgu Cymraeg yn Hydref 2000. Erbyn hyn mae'n siarad yr iaith yn y gwaith, gyda'i deulu ac yn gymdeithasol.

Merch o'r Fflint ydy Fiona Marston sy'n gweithio gyda chwmni Iceland ers 1992. Dechreuodd ddysgu Cymraeg ym 1998 mae hi'n gobeithio gwneud gradd allanol (external degree) yn y Gymraeg drwy Brifysgol Cymru, Aberystwyth.

Llongyfarchiadau i'r tri am ennill tlws gwydr (glass trophy) a £100 yr un.

Yr enillydd oedd Spencer Harris o Goedpoeth, Wrecsam. Mae Jeni, gwraig Spencer, yn siarad Cymraeg ac un rheswm dros ddysgu'r Gymraeg oedd deall Jeni yn siarad ar y ffôn gyda ffrindiau! Mae Spencer wedi bod yn dysgu'r Gymraeg ers 1996 ac yn dweud bod ei diwtor, Glenys Hughes, yn wych. Mae e'n defnyddio'r iaith gymaint â phosibl ac yn dweud bod ennill y gystadleuaeth wedi bod yn bwysig iawn.

Llongyfarchiadau mawr i Spencer ar ennill y gystadleuaeth a'r wobr o dlws gwydr a £300.

Cyfweliad â Spencer.
- Eich cyfle chi i ddweud eich dweud.

Your chance to have your say in Welsh.