Mae’r iaith Gymraeg tua 1500 oed. Datblygodd y Gymraeg o’r Frythoneg – iaith roedd pobl yn ei siarad ar draws Prydain – tua’r chweched ganrif [6G].
Dros ei 1500 mlynedd o fodolaeth mae ei defnydd fel iaith bob dydd a iaith gweinyddu wedi gweld llanw a thrai, wrth iddi geisio bodoli ochr yn ochr ag un o ieithoedd mwyaf grymus y byd – Saesneg.
Bu rhai’n darogan ei thranc ers blynyddoedd lawer, rhai’n dymuno ei gweld yn diflannu oddi ar wyneb y ddaear, ac eraill yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau ei pharhad.
Ond, drwy bob storm a gormes, mae’r Gymraeg wedi goroesi ac wedi esblygu ac – yng ngeiriau'r canwr, Dafydd Iwan – ‘yma o hyd'!





