Hanes Nant Gwrtheyrn
Pentref bendigedig ym Mhen Llyn ydy Nant Gwrtheyrn - dwy res o dai,
plas, capel, hen siop sy nawr yn ganolfan croeso a chaffi. Y tu ôl
iddo mae Mynydd yr Eifl. O'i flaen mae'r môr, Ynys Môn ac,
ar ddiwrnod clir, Iwerddon. Er 1978 mae'n gartref i'r Ganolfan Iaith
Genedlaethol ond mae hanes Nant Gwrtheyrn yn mynd yn ol ddwy fil (2000)
o flynyddoedd o leiaf.
Yr Hanes Cynnar
O'r ffordd rhwng pentref Llanaelhaearn a Llithfaen, mae'n bosib gweld
dau beth sy'n bwysig iawn yn hanes y Nant. Ar y chwith mae Tre'r
Ceiri. Ar y dde mae Mynydd yr Eifl a'i stor o ithfaen a haearn.
Roedd pobl yn byw yn y ddau le rhwng tua 150 cyn Crist (B.C.) a 400
oed Crist (A.D.). Dydyn ni ddim yn gwybod llawer am y bobl hyn ond mae'n
sicr bod haearn yn bwysig i'r brenhinoedd rhyfelgar yn yr ardal
ac i'w gelynion. Roedd yr haearn yn sicr yn cael ei werthu. Erbyn
tua'r bedwaredd ganrif oed Crist roedd system ffyrdd yn bod i
gario metel o gwmpas Cymru - i Gaernarfon, Meirionnydd, Brycheiniog
a Cheredigion.
Y Rhufeiniaid
Yn y Mabinogion mae stori am Macsen Wledig neu Magnus Maximus
ac Elen Luyddog, merch y brenin Eudaf. Yn ôl y stori, syrthiodd
y ddau mewn cariad a pherswadiodd Elen e i helpu codi'r ffyrdd newydd
i symud metel o'r ardal. Pan aeth Macsen o Brydain i Lydaw
yn 383 oed Crist, aeth Elen, ei dau frawd Cynan a Gadeon, a byddin
Eudaf gyda fe. Bu Macsen farw yn Llydaw a ddaeth byddin Eudaf erioed
yn ôl. Ydy'r stori yn wir? Efallai.
Mae sôn mewn un hen ddogfen, y Notitia Dignitatum
(tua 429 oed Crist) am fyddin o ardal Caernarfon yn y Balkans ac mae'n
eithaf sicr bod Cynan wedi setlo yn ardal Nantes. Mae stori amdano yn
torri tafod pob merch a oedd yn priodi un o'i fyddin i sicrhau bod y
plant yn cadw iaith eu tadau!
Tua'r amser yma, daeth byddin Cunedda o Gododdin (De'r Alban nawr) i
ogledd Cymru i sefyll yn erbyn y Gwyddelod. Pam? Mae'n bosib,
gyda byddin Eudaf yn Llydaw, fod ardal Gwynedd eisiau help. Yn ôl
un stori, roedd Cunedda wedi dod ar gais "Gwrtheyrn".
Ar ôl y Rhufeiniaid
Pan aeth y Rhufeiniaid, gadawon nhw Brydain yn nwylo stiwardiaid lleol.
Roedd llawer o rym gyda nhw ac mae'n bosib bod rhai wedi cael y teitl
"gwrtheyrn" - gor (super) a teyrn (king). Yn sicr roedd mwy nag
un "gwrtheyrn". Mae lle ym Mhowys o'r enw "gwrtheyrnion"
ac roedd Cunedda wedi cael gorchymyn i fynd i ogledd Cymru gan
"gwrtheyrn" arall.
Gwrtheyrn y Nant
Yn ôl un stori, roedd Gwrtheyrn y Nant yn un o'r stiwardiaid.
Roedd y "superbus tyrrannus" hwn yn byw yn Ne Prydain yn ardal
Caint yn gynnar yn y bumed ganrif. Roedd eisiau cadw "gwrtheyrnion"
eraill rhag ddod i mewn i'w ardal ac, fel y Rhufeiniaid o'i flaen, penderfynodd
gael help milwyr cyflog o Germania a Sacsonia. Rhoddodd e Ynys
Thanet ger Hastings iddyn nhw a'u harweinwyr Hors a Hengist. Yn fuan,
dechreuon nhw ddod â'u gwragedd a'u plant drosodd ac un ohonyn
nhw oedd Alys Rhonwen, merch Hengist. Syrthiodd Gwrtheyrn mewn cariad
â hi ac roedd eisiau ei phriodi. Ond, roedd Alys yn ferch i'w
thad a threfnodd hi ginio un noson a rhoi dynion Hors a Hengist a dynion
Prydain i eistedd bob yn ail o gwmpas bwrdd. Yn sydyn, ar ganol y cinio,
cododd pob un o ddynion Germania a thrywanu'r Prydeiniwr drws nesaf
iddo a chyllell. Dihangodd Gwrtheyrn, ei deulu a'i dderwyddon.
Faint o wir sy yn y stori? Mae'n anodd dweud. Ond dros y canrifoedd
nesaf, enillodd y Sacsoniaid fwy a mwy o dir gan wahanu'r hen ogledd
(De'r Alban) a'r gorllewin a chreu Cymru a Chernyw yn wledydd ar wahân.
Roedd rhaid rhoi'r bai ar rywun ac roedd Gwrtheyrn yn gwneud y tro yn
iawn. Tyfodd storiau a hanesion o gwmpas y dyn ofnadwy hwn oedd wedi
agor y drws i'r gelyn. Tan yn ddiweddar, roedd y Sacsoniaid neu'r Saeson
yn dal i gael eu disgrifio yng Nghymru fel "plant Alys".
Dinas Emrys a'r Dreigiau
Aeth Gwrtheyrn at y derwyddon am help. "Dos", meddai'r derwyddon
wrtho. "i ben pellaf dy wlad a chodi caer yno". Daeth Gwrtheyrn
trwy'r Canolbarth - lle, yn ôl un fersiwn o'r stori, y cafodd
amser i roi bod i linach brenhinoedd Powys - i fynyddoedd Eryri a cheisiodd
e godi caer. Ond bob tro roedd e'n ceisio byddai'r gaer yn syrthio ac
yn diflannu. Yn y diwedd, daeth bachgen heb dad o'r enw Emrys i roi
help iddo. Dwedodd e fod llyn dan y gaer a bod dwy ddraig yno - draig
goch y Gymru newydd a draig wen y Sacsoniaid. Aeth Gwrtheyrn i chwilio
am y llyn ac yn fuan roedd y dreigiau yn ymladd yn yr awyr. Y ddraig
goch enillodd. Rhoddodd Gwrtheyrn y llyn - Llyn Dinas ger Beddgelert
- a'r gaer - Dinas Emrys i'r bachgen ac aeth "i'r gogledd".
Gwynnys
Mae Historia Brittonum Nennius yn sôn am Gwrtheyrn yn "mynd
gyda'i dderwyddon..a chyrraedd ardal Guunnessi". Doedd neb yn gwybod
lle roedd Guunnessi tan 1963 pan ddangosodd Yr Athro Melville Richards
fod yr enw'n fyw yn enw'r fferm Gwynnys ar ochr y ffordd rhwng Llithfaen
a Nefyn.
Diwedd Gwrtheyrn
Pam aeth e i'r gogledd a setlo yn Nant Gwrtheyrn? Oedd e'n gwybod bod
digon o haearn i arfogi byddin newydd? Beth ddigwyddodd i Gwrtheyrn
wedyn? Mae dwy stori. Yn y gyntaf, anfonodd Duw dân o'r nef i'w
losgi - cyfeiriad, o bosib, at un o'r stormydd mellt sy'n digwydd yn
y Nant. Wrth geisio dianc o'r Nant cafodd Gwrtheyrn a'i fab, Gwrthefyr
Fendigaid, eu lladd gan Garmon, un o'r arweinwyr lleol.
Yn ôl stori arall, torrodd Gwrtheyrn ei galon ar ôl agor
y drws i'r Sacsoniaid ac aeth i grwydro'n wallgof yn y mynyddoedd -
thema gyffredin mewn llenyddiaeth Geltaidd. Mae'n ddiddorol sylwi bod
y ddwy stori hon - y tân o'r nef a'r crwydro gwallgof yn codi
mewn hanes arall y byddwn yn troi ato yn nes ymlaen.
Castell Gwrtheyrn
Un gair arall am Gwrtheyrn. Yn y 1770au roedd Thomas Pennant ar daith
trwy ogledd Cymru yn ysgrifennu ei "Tours of Wales". Yn y llyfr
hwnnw mae'n dweud bod carnedd neu "tumulus" tan tua'r flwyddyn 1700
yn agos i'r môr yng ngwaelod Nant Gwrtheyrn - bedd o gerrig gyda
phridd drosto oedd yn cael ei alw yn Bedd Gwrtheyrn. Mae Pennant yn
dweud hefyd bod pobl y Nant wedi agor y bedd ac wedi ffeindio arch garreg
ag esgyrn dyn tal ynddi. "Castell Gwrtheyrn" oedd enw'r lle hwn
ar y mapiau O.S. cynnar.
Y Tair Melltith
Rai blynyddoedd wedi marw Gwrtheyrn, yn ôl un stori, galwodd tri
mynach ar eu ffordd beryglus i'r fynachlog ar Ynys Enlli. Roedden nhw
eisiau codi eglwys yn y Nant ond chawson nhw ddim croeso gan y bobl
a oedd erbyn hyn yn bysgotwyr. Yn wir, dechreuon nhw daflu cerrig at
y mynachod. Ar ôl dod dros y sioc rhoddodd y mynachod dair melltith
ar y Nant. Yn gyntaf, fyddai tir y Nant byth eto yn dir sanctaidd a
fyddai neb byth yn gallu cael ei gladdu yno. Yn ail, byddai'r Nant yn
llwyddo ac yn methu dair gwaith ac yn y diwedd yn methu am byth. Yn
olaf, fyddai pobl o'r un teulu ddim yn cael priodi'i gilydd.
Yn ôl un fersiwn o'r stori, roedd storm fawr ar y môr y
noson honno a chafodd pob un o ddynion y pentref eu lladd pan oedden
nhw allan yn pysgota. Heb y dynion doedd hi ddim yn bosib i'r merched
aros yn y Nant ac yn fuan roedd y nant yn wag.
Faint o wir sy yn y stori? Mae'n anodd dweud heb ei dyddio'n iawn ond
rhaid cofio nad oedd fawr o Gymraeg rhwng yr Eglwys Geltaidd ac Eglwys
Rufain a ddaeth i'r ardal yn y flwyddyn 777 oed Crist. Mae'n bosib bod
y stori am baganiaid y Nant a'r tair melltith yn rhan o bropaganda Eglwys
Rufain a dim mwy.
Llywelyn ap Gruffydd
Mae hanes y Nant yn eithaf tywyll wedyn tan y drydedd ganrif ar ddeg.
Erbyn hynny, roedd y Nant yn perthyn i Lywelyn ap Gruffydd, tywysog
annibynnol olaf Cymru a oedd a'i lys dros y dwr yn Aberffraw. Rhoddodd
y tywysog Nant Gwrtheyrn a Llithfaen i Heulyn ap Tudur ap Ednyfed Fychan.
Rhys a Meinir
Ym 1776 daeth Thomas Pennant heibio i'r Nant ar ei daith trwy ogledd
Cymru. Ysgrifennodd yn ei "Tours of Wales", ddisgrifiad o'r bobl oedd
yn byw yn y Nant ar y pryd.
"Mae tri theulu'n dal y tir fel tenantiaid," meddai, "yn tyfu
yd ac yn cadw ychydig o wartheg, defaid a geifr. Maen nhw'n ei chael
hi'n anodd iawn cael eu mymryn cynnyrch i'r farchnad."
Roedd bywyd yn galed ac roedd pobl yn meddwl am y Nant fel lle unig,
anodd ei gyrraedd. Doedd dim pentref yn Llithfaen. Roedd yn rhaid gwneud
menyn a phobi bara a halltu cig yr anifeiliaid. Doedd dim glo yno a
bydden nhw'n llosgi tywyrch mawn a ffaglau. Bwndeli o wellt, grug, rhedyn
ac eithin oedd y ffaglau - pethau a oedd ar gael ar y mynydd. Pan fyddai'r
tân wedi diffodd yn y tair fferm yn y Nant, byddai'n rhaid cario
tân o fwthyn ar waelod yr Eifl. Yn ôl Elen Evans, Llithfaen,
yr un oedd y ffordd o fyw nes agor y chwareli.
Y Nant dawel hon oedd cefndir un o'r storiau caru mwyaf enwog a thrist
yn y Gymraeg, stori Rhys a Meinir.
Trefnu Priodas
Mae'r "Tours of Wales" yn sôn am "Ty Hen, Ty Canol a
Thy Uchaf" - y tair fferm oedd yn y Nant ar y pryd. Yn un o'r ffermydd
hyn, yn ol y stori, roedd bachgen heb dad na mam o'r enw Rhys Maredydd
yn byw gyda'i chwaer. Yn un arall o ffermydd y Nant roedd merch o'r
enw Meinir Maredydd yn byw gyda'i thad. Roedd Rhys a Meinir tua'r un
oedran ac yn gefnder ac yn gyfnither i'w gilydd. Yn blant bach, bydden
nhw'n cyd-chwarae. Gydag amser, tyfodd y ferch a'r bachgen yn llances
a llanc. Y cam nesaf oedd i Rhys a Meinir syrthio mewn cariad a chytuno
i briodi. Penderfynon nhw ar ddyddiad a dechreuon nhw baratoi. Ifan
y Ciliau oedd y gwahoddwr a'i waith e oedd mynd o gwmpas yr ardal i
sôn am y newyddion da. Gwnaeth ei waith yn dda. Aeth i bob ty
i ddweud y byddai Rhys a Meinir yn priodi yn Eglwys Clynnog ar ddydd
Sadwrn arbennig.
Cafodd rhai o'r cymdogion wahoddiad i ddod i lawr i'r Nant cyn y briodas
gydag anrhegion i'r par ifanc. Daethon nhw i gyd, un gyda darn o frethyn,
un arall gyda blawd ceirch a'r lleill gyda phethau defnyddiol eraill.
Roedd digon o fwyd a diod yn y Nant ac roedd pawb yn edrych ymlaen at
fwy o hwyl y diwrnod wedyn.
Chwilio am Meinir
Daeth bore'r briodas. Roedd hi'n braf pan gychwynnodd Rhys am Glynnog.
Arhosodd Meinir yn nhy ei thad yn disgwyl i ffrindiau Rhys ddod ar eu
ceffylau i fynd â hi i'r eglwys. Yn sydyn, gwelodd hi'r criw yn
carlamu i lawr i'r Nant a rhedodd i ffwrdd i guddio yn ôl arfer
priodi'r cyfnod. Roedd pobl yn disgwyl iddi wneud hynny. Aeth y criw
i'r ty i ganu penillion a cheisiodd tad Meinir eu cadw allan trwy ateb
pob pennill yn ei dro. O'r diwedd dyma nhw i mewn i'r ty a gweld bod
Meinir wedi mynd. Ar ôl chwilio mawr, penderfynon nhw fod Meinir
wedi bod yn rhy glyfar ac wedi rhedeg i'r eglwys hebddyn nhw. Ond doedd
Meinir ddim yng Nghlynnog a dechreuodd pobl boeni. Rhuthrodd Rhys a'i
ffrindiau yn ol i'r Nant a dechrau chwilio eto ond doedd dim sôn
am Meinir. Erbyn y diwrnod wedyn, roedd yn amlwg bod rhywbeth rhyfedd
wedi digwydd i Meinir. Doedd Rhys ddim yn fodlon rhoi'r gorau i'r chwilio
ac aeth yn wallgof. Byddai'n crwydro'r Nant ddydd a nos yn gweiddi "Meinir,
Meinir". Aeth misoedd heibio. Byddai Rhys yn mynd yn aml at geubren
hen dderwen uwchben y mor lle roedd e a Meinir wedi arfer cyfarfod.
Roedd yn eistedd yno un noson pan ddaeth storm fawr o fellt a tharannau.
Yn sydyn, dyma fellten yn taro'r goeden ac yn ei hollti. Y tu mewn i'r
ceubren roedd sgerbwd dynol a darnau o wisg briodas. Yn ôl y stori
roedd gweld y sgerbwd yn ormod i Rhys. Bu farw yn y fan a'r lle a chafodd
y ddau eu claddu yn yr un bedd. Dyna'r stori. Mae'n ddiddorol sylwi
ei bod yn cynnwys pedair elfen sydd eisoes wedi codi yn hanes Gwrtheyrn
- y tân o'r Nef, y dyn gwallgof, aelodau'r un teulu yn priodi'i
gilydd a'r mab heb dad.
Rees a Margaret
Cafodd y stori ei chyhoeddi yn y Gymraeg am y tro cyntaf dan y teitl
"Priodas yn Nant Gwrtheyrn" mewn casgliad enwog o storiau gwerin
o'r enw "Cymru Fu" 1862 -64. Doedd dim enw dan y stori ond rydyn
ni'n eithaf siwr mai dyn o'r enw Owen Wyn Jones, Glasynys oedd yr awdur.
Roedd y stori wedi ymddangos yn Saesneg cyn hynny, fodd bynnag, dan
y teitl Ceubren yr Ellyll neu "The Bride of Nant Gwrtheyrn".
Rees a Margaret oedd enwau'r cariadon yn y fersiwn Saesneg ac ar ddiwedd
y fersiwn honno mae sôn bod pysgotwr ar y mor un noson wedi gweld
sgerbwd yn symud ar y traeth yn Nant Gwrtheyrn. Mae sôn hefyd
am bobl yn gweld dau ysbryd yn symud law yn llaw - dyn gyda barf a gwallt
hir a merch a socedau gwag yn lle llygaid. Mae sôn hefyd na fydd
unrhyw aderyn ond tylluan a bilidowcar yn disgyn ar y goeden lle bu
farw'r ferch.
Hanes Elis Bach
Ty Canol oedd cartref Elis bach - cymeriad diddorol oedd yn byw yn y
Nant yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf. Corrach oedd Elis Bach. Roedd
ei goesau'n fyr iawn, dim ond 30 centimetr o hyd ond roedd e'n gallu
symud yn gyflym iawn dros y creigiau. Yn amser Elis bach roedd marchnad
yn cael ei chynnal yn y Nant i werthu geifr a defaid. Y noson cyn y
farchnad, Elis oedd yn cael y gwaith o hel yr anifeiliad erbyn y bore
ond byddai'n amhosib ei ffeindio ar y diwrnod mawr ei hun. Byddai'n
cuddio yn ei dy. Maen nhw'n dweud bod Elis wedi marw yn 55 oed tua 1849.
Pe bai wedi cael byw am ddeng mlynedd arall byddai wedi gweld newid
mawr yn Nant Gwrtheyrn.
Agor y Chwareli
Daeth y cyfnod tawel i ben pan ddechreuodd cwmniau dyllu am gerrig yn
y Nant yn fuan ar ôl canol y ganrif ddiwethaf. Roedd trefi mawr
fel Lerpwl a Manceinion yn tyfu'n gyflym ac roedd mwy a mwy o draffig
o gwmpas y ffatrioedd a'r dociau. Roedd yn rhaid cael ffyrdd gyda wyneb
soled, cadarn. Yr ateb oedd gwneud ffyrdd gyda sets, talpiau o garreg
ithfaen wedi'u gwneud yn flociau sgwar neu hirsgwar. Cafodd chwareli
ithfaen eu hagor ym Mhenmaenmawr ac uwchben Trefor i ateb y galw. Roedd
y chwareli hyn yn agos i'r môr mewn lleoedd da i anfon cerrig
sets i ffwrdd mewn llongau. Dyma'r cefndir i agor chwareli Nant Gwrtheyrn
ychydig ar ôl 1950.
Y Gweithwyr Cyntaf
Bu sawl ymgais i ddechrau gwaith sets yn y Nant. Y cyntaf i geisio oedd
Hugh Owen o Ynys Môn. Daeth rhai eraill ar ei ôl. Tua 1861
dechreuodd cwmni Kneeshaw a Lupton, cwmni o Lerpwl, ddatblygu'r Nant.
Ar ôl agor chwarel ar yr ochr ddeheuol codon nhw jeti a rhes o
dai ar dir gwastad yn ymyl y mor i'r gweithwyr cyntaf. Dyma "Holyhead
View" neu'r Barics - 13 o dai bychain gyda dau dy mwy ar siâp
y llythyren "I". Gwyddelod oedd nifer o'r gweithwyr cyntaf -
yn treulio cyfnod byr yn y Nant ac yna'n symud i ryw waith trwm arall.
Daeth nifer o Gymry hefyd i weithio yn y Nant am fod yr arian yn well
na'r arian ar y ffermydd. Byddai'r rhain yn cyrraedd ar fore dydd Llun
gyda digon o fwyd am yr wythnos, yn aros yn y Barics tan ddydd Sadwrn
ac yn mynd adref dros y Sul.
Codi'r Tai
Dynion yn unig oedd yn y Barics ar y dechrau ond yn fuan dechreuodd
rhai o'r gweithwyr ddod â'u gwragedd i fyw gyda nhw. Roedd y Nant
yn newid. Lle gynt roedd tair fferm a rhyw 16 o bobl, dechreuodd pentref
diwydiannol dyfu a chyn bo hir roedd dros 60 yn byw yno. Cafodd y pentref
enw newydd gan Kneeshaw a Lupton - enw Saesneg - Port Nant.
Gwnaeth y gwaith sets yn y Nant yn dda ac agoron nhw dair chwarel -
Cae'r Nant, Porth y Nant a Charreg y Llam. Roedd llongau 150 - 200 tunnell
yn cael eu llwytho'n rheolaidd a'r sets yn mynd i Lerpwl, Manceinion,
Penbedw a rhai i bedwar ban y byd. Ym 1878, penderfynodd y cwmni godi
24 o dai newydd - tai da soled a dyna'r tai sy'n sefyll heddiw. Cawson
nhw eu codi yn ddwy res ar siap "L" - "Sea View" yn wynebu'r
môr a "Mountain View" yn wynebu'r chwarel. Trem y Môr
a Trem y Mynydd ydyn nhw heddiw. Ar ben deheuol "Sea View" roedd
ty mawr, "Bay View", gyda siop a becws y tu ôl iddo. Roedd
popty crwn y becws i'w weld tan 1994. Ym mhen isaf Mountain View cafodd
ty arall ei godi ar ei dir ei hun. Hwn oedd y Plas - cartref Rheolwr
y Chwarel.
Erbyn cyfrifiad 1886 roedd nifer y bobl oedd yn byw yn y pentref wedi
codi i 200. Roedd tri theulu o ffermwyr a thua 190 o weithwyr chwarel
a'u teuluoedd. Cymry Cymraeg oedd dau o bob tri o'r gweithwyr - o Bistyll
ac Edern yn Llyn, o Benmaenmawr yn Arfon ac o ffermydd Môn. Roedd
65 o estroniaid - un neu ddau o'r Alban ond y rhan fwyaf o Loegr ac
yn enwedig o Mount Sorrel yn Swydd Caerlyr. Mae rhai o enwau'r bobl
hyn fel Baum yn dal yn fyw yn yr ardal.
Y Gwaith ei Hun
Meinars oedd rhai o'r gweithwyr. Eu gwaith nhw oedd tynnu'r graig i
lawr. Bydden nhw'n gwneud hynny trwy dyllu'r graig gydag ebill, - un
yn taro â gordd a'r llall yn troi'r ebill. Weithiau byddai'n rhaid
hongian wrth raff i wneud y gwaith. Ar ôl gwneud y twll, bydden
nhw'n rhoi powdwr du ynddo, yn gosod ffiwsen ac yn tanio. Bydden nhw'n
gweithio'r graig fesul ponc ac roedd gan bob ponc ei henw - Bonc Isa,
Bonc Bach, Bonc Sir Fôn, Bonc Buenos Aires ac yn y blaen. Byddai'r
graig yn dod i lawr yn dalpiau mawr di-siâp. Y dasg wedyn oedd
torri'r talpiau cerrig yn sets gwastad o faint arbennig. Y setswyr oedd
yn gwneud hyn gyda morthwylion gwahanol. Ar ôl cael y sets yn
barod bydden nhw'n cael eu rhoi ar wagenni a oedd yn rhedeg i lawr i'r
jeti ar reiliau.
Roedd y gwaith yn galed ond roedd cymdeithas agos yno o'r dechrau. Mae
peth o'r hanes cynnar i'w gael gan Dr Huw T Edwards, yr arweinydd Undebau
Llafur. Symudodd ei dad i'r Nant o Benmaenmawr yn chwarelwr ifanc. Cafodd
un o'r tai newydd ar rent a daeth ei wraig i fyw ato. Ond un diwrnod
cafodd ddamwain ddrwg yn y chwarel. Roedd yn gweithio wrth raff ar wyneb
y graig pan lithrodd y tir lle roedd y rhaff wedi'i phegio. Cafodd ei
anafu'n ofnadwy a doedd e ddim yn gallu gweithio am fisoedd. Doedd dim
tâl salwch ond bob yn ail nos Sadwrn am naw mis byddai'r Gwyddelod
yn gwneud casgliad ac yn dod a chyflog llawn i'r claf. Mae Dr Huw T
Edwards yn dweud y byddai fe, flynyddoedd lawer ar ôl hynny "yn
mynd am dro trwy bentref Llithfaen er mwyn cael edrych i lawr ar bentref
Nant Gwrtheyrn a chodi fy nghap i'r Gwyddelod cynnes-galon."
Gwaith yn y Plas
Byddai'r gweithwyr yn cael eu talu bob yn ail ddydd Sadwrn a byddai
disgwyl iddyn nhw dalu'u rhent - a setlo'u cyfrif yn y siop yn syth.
Un o'r rhai a fu'n byw ac yn gweithio yn y Nant oedd Elen Evans, mam
Ioan Mai Evans sydd yn dal i fyw yn Llithfaen. Daeth hi i'r plas tua
1900 yn forwyn i reolwr y chwarel, Mr Edward Jones, Cymro o Gonwy. Bu
Mr Jones yn rheolwr am dros chwarter canrif - hyd 1906. Ym 1878 aeth
fferm Ty Hen yn wag a gwelodd hwn ei gyfle. Dechreuodd gadw gwartheg
a ieir er mwyn gwerthu cynnyrch i'r gweithwyr - am elw da. Roedd Edward
Jones yn dal i ffermio Ty Hen pan ddaeth Elen Evans i weithio ato a
rhan o'i gwaith hi oedd godro'r gwartheg bob nos a bore - "codi ar
fore Llun am bedwar o'r gloch a gofalu bod y godro wedi'i orffen erbyn
wyth y bore ac erbyn chwech yn yr hwyr." Bydden nhw'n gwerthu'r
llefrith i bobl. Ordors gwraig y ty oedd "Dim ond union fesur i bawb".
Ar ôl un penwythnos yn Lloegr, daeth gwraig y rheolwr yn ôl
a chwyno nad oedd y staff yn gweithio'n ddigon caled. Penderfynodd Elen
Evans ei bod hi wedi cael llond bol ac aeth i America ar y Lucitania
i fyw at ei gwr oedd wedi mynd i Red Granite, Wisconsin ym 1906 i gael
gwaith fel setsiwr. Daeth y ddau yn ôl ar yr un llong ym 1914
- flwyddyn cyn i'r llong fynd i lawr.
Crefydd yn y Nant
Lle digon garw oedd y Nant yn nyddiau cyntaf y Barics. Yn ôl un
hanesydd lleol y pentref oedd "y lle mwyaf annuwiol ac anwaraidd
yn Llyn ac Eifionydd". Byddai'r gweithwyr yn treulio'u hamser mewn
"gloddest a meddwdod". Mae'n rhaid cofio wrth gwrs mai capelwr
o Gymro oedd yr hanesydd. Wrth i'r Nant dyfu penderfynon nhw godi adeilad
pren ar y ffordd i'r Barics i fod yn gapel ac yn ysgol. Enw'r adeilad
oedd Y Babell Goed. Byddai'r Parchedig David Evan Davies, Llithfaen,
yn dod i lawr i'r Nant i helpu ac i genhadu yn y pentref a byddai offeiriad
yn dod i lawr hefyd, bob yn ail ddydd Llun i'r rhai oedd yn Gatholigion.
Ym 1875 daeth Nant Gwrtheyrn yn eglwys yn perthyn i enwad y Methodistiaid
Calfinaidd. Dair blynedd wedyn pan gafodd y tai newydd eu codi, un o'r
pethau yr oedd yn rhaid ei gael oedd capel pwrpasol. Dyma gapel Seilo.
Y gost oedd £300 ac roedd lle i 130 eistedd ynddo. Yn hwn roedd
gwasanaethau'n cael eu cynnal yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae Capel Seilo
yno o hyd. Diflannodd yr hen Babell Goed ar ôl storm fawr.
Addysgu'r Plant
Tua 1900 roedd 40 o aelodau yng Nghapel Seilo, dros 30 o blant yn perthyn
i'r capel a thua 60 yn mynd i'r Ysgol Sul ac roedd gan y Nant hawl i'w
gweinidog ei hun i gynnal gwasanaethau. Yn anffodus, dim ond am dymor
byr y byddai pob gweinidog yn aros. Rhan o waith y gweinidog oedd cynnal
ysgol ddyddiol i'r plant - rhyw fath o ysgol breifat dan ofal cwmni'r
chwarel. Yn un o dai "Mountain View" byddai'r ysgol yn cael ei
chynnal. Roedd yn addysg syml iawn. Wedi'r cwbl, doedd y gweinidogion
a fyddai'n dod i'r Nant erioed wedi cael eu hyfforddi i fod yn athrawon
ysgol. Weithiau, os oedd y capel "rhwng gweinidogion", byddai'n
rhaid i'r plant ddringo i fyny'r hen gamffordd i Lithfaen - neu aros
gartref. Ym 1908 daeth Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon i ofalu am yr
ysgol a cheision nhw wella'r dysgu. Roedd yn anodd iawn, fodd bynnag,
gan fod yr athrawon a'r plant yn newid mor aml. Roedd HMI - yr arolygwyr
ysgolion - yn anhapus iawn â'r sefyllfa. Un o'r arolygwyr hyn
oedd Lewis Jones Roberts. Ym 1910 awgrymodd newid enw'r ysgol "from
the hybrid Port Nant into the suggestive Nant Gwrtheyrn". Derbyniodd
y Pwyllgor Addysg ei awgrym.
Adloniant
Doedd dim tafarn yn y Nant. Byddai'r gweithwyr cynnar yn rholio casgenni
i lawr yr hen gamffordd ond yn nes ymlaen dechreuodd pobl fynd i dafarn
y Vic yn Llithfaen. Mae sawl stori am ddamweiniau ar y ffordd i lawr
yn y tywyllwch. Un noson, bu gwraig o'r enw Mrs Butler farw ar ôl
meddwi a rhewi i farwolaeth ar y troad mawr hanner ffordd i lawr y mynydd.
Troad Butler ydy'r enw heddiw.
Mae stori hefyd am Sais o'r enw Barlow a oedd yn cerdded adref o'r Nant
yn hwyr un noson wedi yfed mwy nag un peint. Yn sydyn gwelodd rywbeth
du a oedd yn edrych fel dyn o'i flaen. Dychryn wnaeth e ac am funud
doedd e ddim yn gallu symud. Pan ddechreuodd y peth du symud trodd ar
ei sawdl a rhuthro'n ôl i Lithfaen a churo ar ddrws y ty cyntaf.
Ar ôl ei dawelu, daeth dau o'r dynion gyda fe i lawr i'r Nant.
Pan ddaethon nhw at y fan lle roedd e wedi cael ei ddychryn, stopiodd
Barlow eto. Roedd y bwgan yn dal yno. Ond roedd y ddau arall yn gallu
gweld yn glir mai'r cwbl oedd yno oedd coeden drain gwynion fechan.
Am flynyddoedd wedyn Bwgan Barlow oedd enw pobl y Nant ar y goeden honno.
Llongddrylliad yn y Nant
Byddai llongau yn gadael y Nant yn llawn o sets ond bydden nhw'n dod
i mewn yn llawn hefyd - yn llawn o bob math o nwyddau o Lerpwl. Oherwydd
hynny, byddai pobl yn tyrru i'r Nant o filltiroedd i ffwrdd i brynu
pethau nad oedd ar gael yn lleol. Un o'r llongau hyn oedd yr "Amy
Summerfield". Un noson stormus daeth hi at ochr y lanfa a chlymon
nhw ei phen blaen. Cafodd rhaff ei rhoi dros y capstan ond daeth yn
rhydd a symudodd y llong gerfydd ei hochr at y traeth. Ceisiodd y capten
fynd â hi yn ôl i'r dwr dwfn ond aeth y propeller yn erbyn
y creigiau gan adael y llong i'r gwynt a'r tonnau. Cafodd y llong ei
dinistrio a bron iddynt golli'r "stage" hefyd.
Dechrau'r Diwedd
Y blynyddoedd o 1878 hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf oedd blynyddoedd mawr
y Nant. Erbyn diwedd 1915 roedd nifer y plant yn yr ysgol i lawr i 17.
Caeodd Chwarel y Nant. Cafodd rhai o'r dynion waith yn Chwarel Cae'r
Nant a Charreg Llam ond symudodd eraill o'r pentref. Yn raddol, dechreuodd
pobl symud o'r hen Farics i'r tai gwag ym Mountain View a Sea View.
Roedd hyn yn beth lwcus achos un bore ym 1925 llithrodd y tir lle roedd
y Barics a syrthiodd y tai i'r traeth.
Cafodd Chwarel y Nant ei hail agor, mae'n wir, gan gwmni arall ac yn
ystod y tridegau roedd tipyn o fywyd yno pan oedd galw newydd am ithfaen
ar gyfer ffyrdd a thwneli. Dyna'r cyfnod mae Eileen M Webb yn ei ddisgrifio
yn ei llyfr "This Valley Was Ours (1983)". Roedd y capel a'r
ysgol ar agor. Roedd cymdeithas yn y Nant ond roedd yr hen lewyrch wedi
mynd am byth. Lle roedd 40 yn aelodau yn y capel cyn 1914, rhyw 12-15
oedd yno yn y tridegau. Roedd mwy a mwy o bwysau ar deuluoedd i symud
i Lithfaen i fod yn nes at feddyg, siopau a'r ysgol uwchradd.
Pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd daeth dechrau diwedd cyfnod y chwareli.
Caeodd Chwarel y Nant am y tro olaf. Fesul un ac un gadawodd y teuluoedd.
Yn rhifyn 23 Gorffennaf 1948 o'r "Cymro" mae dau lun sy'n dweud
y cyfan - un o John Roberts a'i nith yn gadael eu ty yn y Nant i fyw
yn Llithfaen; un arall o ddau o ddynion y Nant yn rhoi celfi'r ysgol
ar gar llusg i'w cario i fyny'r allt. Symudodd dau neu dri theulu o
sgwatwyr o Loegr i fyw i'r tai gwag ym 1949 ac agorodd y Pwyllgor Addysg
yr ysgol am ddwy neu dair blynedd. Ond roedd dyddiau cymdeithas o chwarelwyr
yn byw yn y Nant drosodd.
Ailddechrau
Yn 1970, symudodd Dr Carl Clowes o Fanceinion i redeg meddyfga newydd
yn Llanaelhaearn. Roedd am godi ei blant yn Gymry Cymraeg. Fodd bynnag,
roedd y gymuned mewn trafferthion; roedd si bod chwarel Trefor yn mynd
i gau. Roedd ysgol Llanaelhaearn mewn perygl o gau oherwydd ei bod yn
rhy fach. Ym marn y meddyg newydd, roedd angen rhywbeth newydd ar yr
ardal a hynny ar frys.
Ar yr un pryd, roedd mwy a mwy o bobl yn dysgu Cymraeg. Roedd dosbarthiadau
yn cael eu cynnal ledled Cymru ac ysgolion haf yn cael eu trefnu gan
gynnwys y gyntaf yn Harlech yn 1961. Roedd teimlad ar led bod angen
canolfan arbenigol - canolfan iaith genedlaethol a fyddai ar agor drwy'r
flwyddyn.
Daeth y ddau syniad ynghyd a daeth llu o diwtoriaid a chyfeillion at
ei gilydd i ddechrau cronfa ymddiriedolaeth er mwyn prynu pentref Nant
Gwrtheyrn.
Prynu'r Pentref
Erbyn 1978 roedd ganddynt ddigon o arian (£25,000) i brynu'r pentref
- a oedd yn wag er 1959 - oddi ar gwmni Amie Road Stone. Dechreuwyd
adfer y tai ar unwaith ac, yn Ebrill 1982, daeth y grwp cyntaf ar gwrs
i'r Nant - ar waetha'r ffaith nad oedd ffonau na thrydan yno!
Acen yn Nant Gwrtheyrn
Bu Acen yn cynnal cyrsiau yn y Nant er 1989.
Hawlfraint: Yr Athro Bedwyr Lewis Jones, Elen Rhys.