Hanes Nant Gwrtheyrn
Pentref bendigedig ym Mhen Llyn ydy Nant Gwrtheyrn - dwy res o dai, plas,
capel, hen siop sy nawr yn ganolfan croeso a chaffi. Y tu ôl iddo
mae Mynydd yr Eifl. O'i flaen mae'r môr, Ynys Môn ac, ar ddiwrnod
clir, Iwerddon. Er 1978 mae'n gartref i'r Ganolfan Iaith Genedlaethol
ond mae hanes Nant Gwrtheyrn yn mynd yn ol ddwy fil (2000) o flynyddoedd
o leiaf.
Yr Hanes Cynnar
O'r ffordd rhwng pentref Llanaelhaearn a Llithfaen, mae'n bosib gweld
dau beth sy'n bwysig iawn yn hanes y Nant. Ar y chwith mae Tre'r Ceiri.
Ar y dde mae Mynydd yr Eifl a'i stor o ithfaen a haearn.
Roedd pobl yn byw yn y ddau le rhwng tua 150 cyn Crist (B.C.) a 400 oed
Crist (A.D.). Dydyn ni ddim yn gwybod llawer am y bobl hyn ond mae'n sicr
bod haearn yn bwysig i'r brenhinoedd rhyfelgar yn yr ardal ac i'w
gelynion. Roedd yr haearn yn sicr yn cael ei werthu. Erbyn tua'r
bedwaredd ganrif oed Crist roedd system ffyrdd yn bod i gario metel
o gwmpas Cymru - i Gaernarfon, Meirionnydd, Brycheiniog a Cheredigion.
Y Rhufeiniaid
Yn y Mabinogion mae stori am Macsen Wledig neu Magnus Maximus ac
Elen Luyddog, merch y brenin Eudaf. Yn ôl y stori, syrthiodd y ddau
mewn cariad a pherswadiodd Elen e i helpu codi'r ffyrdd newydd i symud
metel o'r ardal. Pan aeth Macsen o Brydain i Lydaw yn 383
oed Crist, aeth Elen, ei dau frawd Cynan a Gadeon, a byddin Eudaf
gyda fe. Bu Macsen farw yn Llydaw a ddaeth byddin Eudaf erioed yn ôl.
Ydy'r stori yn wir? Efallai.
Mae sôn mewn un hen ddogfen, y Notitia Dignitatum
(tua 429 oed Crist) am fyddin o ardal Caernarfon yn y Balkans ac mae'n
eithaf sicr bod Cynan wedi setlo yn ardal Nantes. Mae stori amdano yn
torri tafod pob merch a oedd yn priodi un o'i fyddin i sicrhau bod y plant
yn cadw iaith eu tadau!
Tua'r amser yma, daeth byddin Cunedda o Gododdin (De'r Alban nawr) i ogledd
Cymru i sefyll yn erbyn y Gwyddelod. Pam? Mae'n bosib, gyda byddin
Eudaf yn Llydaw, fod ardal Gwynedd eisiau help. Yn ôl un stori,
roedd Cunedda wedi dod ar gais "Gwrtheyrn".
Ar ôl y Rhufeiniaid
Pan aeth y Rhufeiniaid, gadawon nhw Brydain yn nwylo stiwardiaid lleol.
Roedd llawer o rym gyda nhw ac mae'n bosib bod rhai wedi cael y teitl
"gwrtheyrn" - gor (super) a teyrn (king). Yn sicr roedd mwy nag
un "gwrtheyrn". Mae lle ym Mhowys o'r enw "gwrtheyrnion"
ac roedd Cunedda wedi cael gorchymyn i fynd i ogledd Cymru gan
"gwrtheyrn" arall.
Gwrtheyrn y Nant
Yn ôl un stori, roedd Gwrtheyrn y Nant yn un o'r stiwardiaid. Roedd
y "superbus tyrrannus" hwn yn byw yn Ne Prydain yn ardal Caint
yn gynnar yn y bumed ganrif. Roedd eisiau cadw "gwrtheyrnion"
eraill rhag ddod i mewn i'w ardal ac, fel y Rhufeiniaid o'i flaen, penderfynodd
gael help milwyr cyflog o Germania a Sacsonia. Rhoddodd e Ynys
Thanet ger Hastings iddyn nhw a'u harweinwyr Hors a Hengist. Yn fuan,
dechreuon nhw ddod â'u gwragedd a'u plant drosodd ac un ohonyn nhw
oedd Alys Rhonwen, merch Hengist. Syrthiodd Gwrtheyrn mewn cariad â
hi ac roedd eisiau ei phriodi. Ond, roedd Alys yn ferch i'w thad a threfnodd
hi ginio un noson a rhoi dynion Hors a Hengist a dynion Prydain i eistedd
bob yn ail o gwmpas bwrdd. Yn sydyn, ar ganol y cinio, cododd pob un o
ddynion Germania a thrywanu'r Prydeiniwr drws nesaf iddo a chyllell. Dihangodd
Gwrtheyrn, ei deulu a'i dderwyddon.
Faint o wir sy yn y stori? Mae'n anodd dweud. Ond dros y canrifoedd nesaf,
enillodd y Sacsoniaid fwy a mwy o dir gan wahanu'r hen ogledd (De'r Alban)
a'r gorllewin a chreu Cymru a Chernyw yn wledydd ar wahân. Roedd
rhaid rhoi'r bai ar rywun ac roedd Gwrtheyrn yn gwneud y tro yn iawn.
Tyfodd storiau a hanesion o gwmpas y dyn ofnadwy hwn oedd wedi agor y
drws i'r gelyn. Tan yn ddiweddar, roedd y Sacsoniaid neu'r Saeson yn dal
i gael eu disgrifio yng Nghymru fel "plant Alys".
Dinas Emrys a'r Dreigiau
Aeth Gwrtheyrn at y derwyddon am help. "Dos", meddai'r derwyddon
wrtho. "i ben pellaf dy wlad a chodi caer yno". Daeth Gwrtheyrn
trwy'r Canolbarth - lle, yn ôl un fersiwn o'r stori, y cafodd amser
i roi bod i linach brenhinoedd Powys - i fynyddoedd Eryri a cheisiodd
e godi caer. Ond bob tro roedd e'n ceisio byddai'r gaer yn syrthio ac
yn diflannu. Yn y diwedd, daeth bachgen heb dad o'r enw Emrys i roi help
iddo. Dwedodd e fod llyn dan y gaer a bod dwy ddraig yno - draig goch
y Gymru newydd a draig wen y Sacsoniaid. Aeth Gwrtheyrn i chwilio am y
llyn ac yn fuan roedd y dreigiau yn ymladd yn yr awyr. Y ddraig goch enillodd.
Rhoddodd Gwrtheyrn y llyn - Llyn Dinas ger Beddgelert - a'r gaer - Dinas
Emrys i'r bachgen ac aeth "i'r gogledd".
Gwynnys
Mae Historia Brittonum Nennius yn sôn am Gwrtheyrn yn "mynd gyda'i
dderwyddon..a chyrraedd ardal Guunnessi". Doedd neb yn gwybod lle
roedd Guunnessi tan 1963 pan ddangosodd Yr Athro Melville Richards fod
yr enw'n fyw yn enw'r fferm Gwynnys ar ochr y ffordd rhwng Llithfaen a
Nefyn.
Diwedd Gwrtheyrn
Pam aeth e i'r gogledd a setlo yn Nant Gwrtheyrn? Oedd e'n gwybod bod
digon o haearn i arfogi byddin newydd? Beth ddigwyddodd i Gwrtheyrn wedyn?
Mae dwy stori. Yn y gyntaf, anfonodd Duw dân o'r nef i'w losgi -
cyfeiriad, o bosib, at un o'r stormydd mellt sy'n digwydd yn y Nant. Wrth
geisio dianc o'r Nant cafodd Gwrtheyrn a'i fab, Gwrthefyr Fendigaid, eu
lladd gan Garmon, un o'r arweinwyr lleol.
Yn ôl stori arall, torrodd Gwrtheyrn ei galon ar ôl agor y
drws i'r Sacsoniaid ac aeth i grwydro'n wallgof yn y mynyddoedd - thema
gyffredin mewn llenyddiaeth Geltaidd. Mae'n ddiddorol sylwi bod y ddwy
stori hon - y tân o'r nef a'r crwydro gwallgof yn codi mewn hanes
arall y byddwn yn troi ato yn nes ymlaen.
Castell Gwrtheyrn
Un gair arall am Gwrtheyrn. Yn 70au'r ddeunawfed ganrif roedd Thomas Pennant
ar daith trwy ogledd Cymru yn ysgrifennu ei "Tours of Wales". Yn
y llyfr hwnnw mae'n dweud bod carnedd neu "tumulus" tan tua'r flwyddyn
1700 yn agos i'r môr yng ngwaelod Nant Gwrtheyrn - bedd o gerrig
gyda phridd drosto oedd yn cael ei alw yn Bedd Gwrtheyrn. Mae Pennant
yn dweud hefyd bod pobl y Nant wedi agor y bedd ac wedi ffeindio arch
garreg ag esgyrn dyn tal ynddi. "Castell Gwrtheyrn" oedd enw'r
lle hwn ar y mapiau O.S. cynnar.
Y Tair Melltith
Rai blynyddoedd wedi marw Gwrtheyrn, yn ôl un stori, galwodd tri
mynach ar eu ffordd beryglus i'r fynachlog ar Ynys Enlli. Roedden nhw
eisiau codi eglwys yn y Nant ond chawson nhw ddim croeso gan y bobl a
oedd erbyn hyn yn bysgotwyr. Yn wir, dechreuon nhw daflu cerrig at y mynachod.
Ar ôl dod dros y sioc rhoddodd y mynachod dair melltith ar y Nant.
Yn gyntaf, fyddai tir y Nant byth eto yn dir sanctaidd a fyddai neb byth
yn gallu cael ei gladdu yno. Yn ail, byddai'r Nant yn llwyddo ac yn methu
dair gwaith ac yn y diwedd yn methu am byth. Yn olaf, fyddai pobl o'r
un teulu ddim yn cael priodi'i gilydd.
Yn ôl un fersiwn o'r stori, roedd storm fawr ar y môr y noson
honno a chafodd pob un o ddynion y pentref eu lladd pan oedden nhw allan
yn pysgota. Heb y dynion doedd hi ddim yn bosib i'r merched aros yn y
Nant ac yn fuan roedd y nant yn wag.
Faint o wir sy yn y stori? Mae'n anodd dweud heb ei dyddio'n iawn ond
rhaid cofio nad oedd fawr o Gymraeg rhwng yr Eglwys Geltaidd ac Eglwys
Rufain a ddaeth i'r ardal yn y flwyddyn 777 oed Crist. Mae'n bosib bod
y stori am baganiaid y Nant a'r tair melltith yn rhan o bropaganda Eglwys
Rufain a dim mwy.
Llywelyn ap Gruffydd
Mae hanes y Nant yn eithaf tywyll wedyn tan y drydedd ganrif ar ddeg.
Erbyn hynny, roedd y Nant yn perthyn i Lywelyn ap Gruffydd, tywysog annibynnol
olaf Cymru a oedd a'i lys dros y dwr yn Aberffraw. Rhoddodd y tywysog
Nant Gwrtheyrn a Llithfaen i Heulyn ap Tudur ap Ednyfed Fychan.
Rhys a Meinir
Ym 1776 daeth Thomas Pennant heibio i'r Nant ar ei daith trwy ogledd Cymru.
Ysgrifennodd yn ei "Tours of Wales", ddisgrifiad o'r bobl oedd yn byw
yn y Nant ar y pryd.
"Mae tri theulu'n dal y tir fel tenantiaid," meddai, "yn tyfu
yd ac yn cadw ychydig o wartheg, defaid a geifr. Maen nhw'n ei chael hi'n
anodd iawn cael eu mymryn cynnyrch i'r farchnad."
Roedd bywyd yn galed ac roedd pobl yn meddwl am y Nant fel lle unig, anodd
ei gyrraedd. Doedd dim pentref yn Llithfaen. Roedd yn rhaid gwneud menyn
a phobi bara a halltu cig yr anifeiliaid. Doedd dim glo yno a bydden nhw'n
llosgi tywyrch mawn a ffaglau. Bwndeli o wellt, grug, rhedyn ac eithin
oedd y ffaglau - pethau a oedd ar gael ar y mynydd. Pan fyddai'r tân
wedi diffodd yn y tair fferm yn y Nant, byddai'n rhaid cario tân
o fwthyn ar waelod yr Eifl. Yn ôl Elen Evans, Llithfaen, yr un oedd
y ffordd o fyw nes agor y chwareli.
Y Nant dawel hon oedd cefndir un o'r storiau caru mwyaf enwog a thrist
yn y Gymraeg, stori Rhys a Meinir.
Trefnu Priodas
Mae'r "Tours of Wales" yn sôn am "Ty Hen, Ty Canol a Thy
Uchaf" - y tair fferm oedd yn y Nant ar y pryd. Yn un o'r ffermydd
hyn, yn ol y stori, roedd bachgen heb dad na mam o'r enw Rhys Maredydd
yn byw gyda'i chwaer. Yn un arall o ffermydd y Nant roedd merch o'r enw
Meinir Maredydd yn byw gyda'i thad. Roedd Rhys a Meinir tua'r un oedran
ac yn gefnder ac yn gyfnither i'w gilydd. Yn blant bach, bydden nhw'n
cyd-chwarae. Gydag amser, tyfodd y ferch a'r bachgen yn llances a llanc.
Y cam nesaf oedd i Rhys a Meinir syrthio mewn cariad a chytuno i briodi.
Penderfynon nhw ar ddyddiad a dechreuon nhw baratoi. Ifan y Ciliau oedd
y gwahoddwr a'i waith e oedd mynd o gwmpas yr ardal i sôn am y newyddion
da. Gwnaeth ei waith yn dda. Aeth i bob ty i ddweud y byddai Rhys a Meinir
yn priodi yn Eglwys Clynnog ar ddydd Sadwrn arbennig.
Cafodd rhai o'r cymdogion wahoddiad i ddod i lawr i'r Nant cyn y briodas
gydag anrhegion i'r par ifanc. Daethon nhw i gyd, un gyda darn o frethyn,
un arall gyda blawd ceirch a'r lleill gyda phethau defnyddiol eraill.
Roedd digon o fwyd a diod yn y Nant ac roedd pawb yn edrych ymlaen at
fwy o hwyl y diwrnod wedyn.
Chwilio am Meinir
Daeth bore'r briodas. Roedd hi'n braf pan gychwynnodd Rhys am Glynnog.
Arhosodd Meinir yn nhy ei thad yn disgwyl i ffrindiau Rhys ddod ar eu
ceffylau i fynd â hi i'r eglwys. Yn sydyn, gwelodd hi'r criw yn
carlamu i lawr i'r Nant a rhedodd i ffwrdd i guddio yn ôl arfer
priodi'r cyfnod. Roedd pobl yn disgwyl iddi wneud hynny. Aeth y criw i'r
ty i ganu penillion a cheisiodd tad Meinir eu cadw allan trwy ateb pob
pennill yn ei dro. O'r diwedd dyma nhw i mewn i'r ty a gweld bod Meinir
wedi mynd. Ar ôl chwilio mawr, penderfynon nhw fod Meinir wedi bod
yn rhy glyfar ac wedi rhedeg i'r eglwys hebddyn nhw. Ond doedd Meinir
ddim yng Nghlynnog a dechreuodd pobl boeni. Rhuthrodd Rhys a'i ffrindiau
yn ol i'r Nant a dechrau chwilio eto ond doedd dim sôn am Meinir.
Erbyn y diwrnod wedyn, roedd yn amlwg bod rhywbeth rhyfedd wedi digwydd
i Meinir. Doedd Rhys ddim yn fodlon rhoi'r gorau i'r chwilio ac aeth yn
wallgof. Byddai'n crwydro'r Nant ddydd a nos yn gweiddi "Meinir, Meinir".
Aeth misoedd heibio. Byddai Rhys yn mynd yn aml at geubren hen dderwen
uwchben y mor lle roedd e a Meinir wedi arfer cyfarfod.
Roedd yn eistedd yno un noson pan ddaeth storm fawr o fellt a tharannau.
Yn sydyn, dyma fellten yn taro'r goeden ac yn ei hollti. Y tu mewn i'r
ceubren roedd sgerbwd dynol a darnau o wisg briodas. Yn ôl y stori
roedd gweld y sgerbwd yn ormod i Rhys. Bu farw yn y fan a'r lle a chafodd
y ddau eu claddu yn yr un bedd. Dyna'r stori. Mae'n ddiddorol sylwi ei
bod yn cynnwys pedair elfen sydd eisoes wedi codi yn hanes Gwrtheyrn -
y tân o'r Nef, y dyn gwallgof, aelodau'r un teulu yn priodi'i gilydd
a'r mab heb dad.
Rees a Margaret
Cafodd y stori ei chyhoeddi yn y Gymraeg am y tro cyntaf dan y teitl "Priodas
yn Nant Gwrtheyrn" mewn casgliad enwog o storiau gwerin o'r enw "Cymru
Fu" 1862 -64. Doedd dim enw dan y stori ond rydyn ni'n eithaf siwr
mai dyn o'r enw Owen Wyn Jones, Glasynys oedd yr awdur. Roedd y stori
wedi ymddangos yn Saesneg cyn hynny, fodd bynnag, dan y teitl Ceubren
yr Ellyll neu "The Bride of Nant Gwrtheyrn". Rees a Margaret oedd
enwau'r cariadon yn y fersiwn Saesneg ac ar ddiwedd y fersiwn honno mae
sôn bod pysgotwr ar y mor un noson wedi gweld sgerbwd yn symud ar
y traeth yn Nant Gwrtheyrn. Mae sôn hefyd am bobl yn gweld dau ysbryd
yn symud law yn llaw - dyn gyda barf a gwallt hir a merch a socedau gwag
yn lle llygaid. Mae sôn hefyd na fydd unrhyw aderyn ond tylluan
a bilidowcar yn disgyn ar y goeden lle bu farw'r ferch.
Hanes Elis Bach
Ty Canol oedd cartref Elis bach - cymeriad diddorol oedd yn byw yn y Nant
yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf. Corrach oedd Elis Bach. Roedd ei
goesau'n fyr iawn, dim ond 30 centimetr o hyd ond roedd e'n gallu symud
yn gyflym iawn dros y creigiau. Yn amser Elis bach roedd marchnad yn cael
ei chynnal yn y Nant i werthu geifr a defaid. Y noson cyn y farchnad,
Elis oedd yn cael y gwaith o hel yr anifeiliad erbyn y bore ond byddai'n
amhosib ei ffeindio ar y diwrnod mawr ei hun. Byddai'n cuddio yn ei dy.
Maen nhw'n dweud bod Elis wedi marw yn 55 oed tua 1849. Pe bai wedi cael
byw am ddeng mlynedd arall byddai wedi gweld newid mawr yn Nant Gwrtheyrn.
Agor y Chwareli
Daeth y cyfnod tawel i ben pan ddechreuodd cwmniau dyllu am gerrig yn
y Nant yn fuan ar ôl canol y ganrif ddiwethaf. Roedd trefi mawr
fel Lerpwl a Manceinion yn tyfu'n gyflym ac roedd mwy a mwy o draffig
o gwmpas y ffatrioedd a'r dociau. Roedd yn rhaid cael ffyrdd gyda wyneb
soled, cadarn. Yr ateb oedd gwneud ffyrdd gyda sets, talpiau o garreg
ithfaen wedi'u gwneud yn flociau sgwar neu hirsgwar. Cafodd chwareli ithfaen
eu hagor ym Mhenmaenmawr ac uwchben Trefor i ateb y galw. Roedd y chwareli
hyn yn agos i'r môr mewn lleoedd da i anfon cerrig sets i ffwrdd
mewn llongau. Dyma'r cefndir i agor chwareli Nant Gwrtheyrn ychydig ar
ôl 1950.
Y Gweithwyr Cyntaf
Bu sawl ymgais i ddechrau gwaith sets yn y Nant. Y cyntaf i geisio oedd
Hugh Owen o Ynys Môn. Daeth rhai eraill ar ei ôl. Tua 1861
dechreuodd cwmni Kneeshaw a Lupton, cwmni o Lerpwl, ddatblygu'r Nant.
Ar ôl agor chwarel ar yr ochr ddeheuol codon nhw jeti a rhes o dai
ar dir gwastad yn ymyl y mor i'r gweithwyr cyntaf. Dyma "Holyhead View"
neu'r Barics - 13 o dai bychain gyda dau dy mwy ar siâp y llythyren
"I". Gwyddelod oedd nifer o'r gweithwyr cyntaf - yn treulio cyfnod
byr yn y Nant ac yna'n symud i ryw waith trwm arall.
Daeth nifer o Gymry hefyd i weithio yn y Nant am fod yr arian yn well
na'r arian ar y ffermydd. Byddai'r rhain yn cyrraedd ar fore dydd Llun
gyda digon o fwyd am yr wythnos, yn aros yn y Barics tan ddydd Sadwrn
ac yn mynd adref dros y Sul.
Codi'r Tai
Dynion yn unig oedd yn y Barics ar y dechrau ond yn fuan dechreuodd rhai
o'r gweithwyr ddod â'u gwragedd i fyw gyda nhw. Roedd y Nant yn
newid. Lle gynt roedd tair fferm a rhyw 16 o bobl, dechreuodd pentref
diwydiannol dyfu a chyn bo hir roedd dros 60 yn byw yno. Cafodd y pentref
enw newydd gan Kneeshaw a Lupton - enw Saesneg - Port Nant.
Gwnaeth y gwaith sets yn y Nant yn dda ac agoron nhw dair chwarel - Cae'r
Nant, Porth y Nant a Charreg y Llam. Roedd llongau 150 - 200 tunnell yn
cael eu llwytho'n rheolaidd a'r sets yn mynd i Lerpwl, Manceinion, Penbedw
a rhai i bedwar ban y byd. Ym 1878, penderfynodd y cwmni godi 24 o dai
newydd - tai da soled a dyna'r tai sy'n sefyll heddiw. Cawson nhw eu codi
yn ddwy res ar siap "L" - "Sea View" yn wynebu'r môr
a "Mountain View" yn wynebu'r chwarel. Trem y Môr a Trem
y Mynydd ydyn nhw heddiw. Ar ben deheuol "Sea View" roedd ty mawr,
"Bay View", gyda siop a becws y tu ôl iddo. Roedd popty crwn
y becws i'w weld tan 1994. Ym mhen isaf Mountain View cafodd ty arall
ei godi ar ei dir ei hun. Hwn oedd y Plas - cartref Rheolwr y Chwarel.
Erbyn cyfrifiad 1886 roedd nifer y bobl oedd yn byw yn y pentref wedi
codi i 200. Roedd tri theulu o ffermwyr a thua 190 o weithwyr chwarel
a'u teuluoedd. Cymry Cymraeg oedd dau o bob tri o'r gweithwyr - o Bistyll
ac Edern yn Llyn, o Benmaenmawr yn Arfon ac o ffermydd Môn. Roedd
65 o estroniaid - un neu ddau o'r Alban ond y rhan fwyaf o Loegr ac yn
enwedig o Mount Sorrel yn Swydd Caerlyr. Mae rhai o enwau'r bobl hyn fel
Baum yn dal yn fyw yn yr ardal.
Y Gwaith ei Hun
Meinars oedd rhai o'r gweithwyr. Eu gwaith nhw oedd tynnu'r graig i lawr.
Bydden nhw'n gwneud hynny trwy dyllu'r graig gydag ebill, - un yn taro
â gordd a'r llall yn troi'r ebill. Weithiau byddai'n rhaid hongian
wrth raff i wneud y gwaith. Ar ôl gwneud y twll, bydden nhw'n rhoi
powdwr du ynddo, yn gosod ffiwsen ac yn tanio. Bydden nhw'n gweithio'r
graig fesul ponc ac roedd gan bob ponc ei henw - Bonc Isa, Bonc Bach,
Bonc Sir Fôn, Bonc Buenos Aires ac yn y blaen. Byddai'r graig yn
dod i lawr yn dalpiau mawr di-siâp. Y dasg wedyn oedd torri'r talpiau
cerrig yn sets gwastad o faint arbennig. Y setswyr oedd yn gwneud hyn
gyda morthwylion gwahanol. Ar ôl cael y sets yn barod bydden nhw'n
cael eu rhoi ar wagenni a oedd yn rhedeg i lawr i'r jeti ar reiliau.
Roedd y gwaith yn galed ond roedd cymdeithas agos yno o'r dechrau. Mae
peth o'r hanes cynnar i'w gael gan Dr Huw T Edwards, yr arweinydd Undebau
Llafur. Symudodd ei dad i'r Nant o Benmaenmawr yn chwarelwr ifanc. Cafodd
un o'r tai newydd ar rent a daeth ei wraig i fyw ato. Ond un diwrnod cafodd
ddamwain ddrwg yn y chwarel. Roedd yn gweithio wrth raff ar wyneb y graig
pan lithrodd y tir lle roedd y rhaff wedi'i phegio. Cafodd ei anafu'n
ofnadwy a doedd e ddim yn gallu gweithio am fisoedd. Doedd dim tâl
salwch ond bob yn ail nos Sadwrn am naw mis byddai'r Gwyddelod yn gwneud
casgliad ac yn dod a chyflog llawn i'r claf. Mae Dr Huw T Edwards yn dweud
y byddai fe, flynyddoedd lawer ar ôl hynny "yn mynd am dro trwy
bentref Llithfaen er mwyn cael edrych i lawr ar bentref Nant Gwrtheyrn
a chodi fy nghap i'r Gwyddelod cynnes-galon."
Gwaith yn y Plas
Byddai'r gweithwyr yn cael eu talu bob yn ail ddydd Sadwrn a byddai disgwyl
iddyn nhw dalu'u rhent - a setlo'u cyfrif yn y siop yn syth.
Un o'r rhai a fu'n byw ac yn gweithio yn y Nant oedd Elen Evans, mam Ioan
Mai Evans sydd yn dal i fyw yn Llithfaen. Daeth hi i'r plas tua 1900 yn
forwyn i reolwr y chwarel, Mr Edward Jones, Cymro o Gonwy. Bu Mr Jones
yn rheolwr am dros chwarter canrif - hyd 1906. Ym 1878 aeth fferm Ty Hen
yn wag a gwelodd hwn ei gyfle. Dechreuodd gadw gwartheg a ieir er mwyn
gwerthu cynnyrch i'r gweithwyr - am elw da. Roedd Edward Jones yn dal
i ffermio Ty Hen pan ddaeth Elen Evans i weithio ato a rhan o'i gwaith
hi oedd godro'r gwartheg bob nos a bore - "codi ar fore Llun am bedwar
o'r gloch a gofalu bod y godro wedi'i orffen erbyn wyth y bore ac erbyn
chwech yn yr hwyr." Bydden nhw'n gwerthu'r llefrith i bobl. Ordors
gwraig y ty oedd "Dim ond union fesur i bawb".
Ar ôl un penwythnos yn Lloegr, daeth gwraig y rheolwr yn ôl
a chwyno nad oedd y staff yn gweithio'n ddigon caled. Penderfynodd Elen
Evans ei bod hi wedi cael llond bol ac aeth i America ar y Lucitania i
fyw at ei gwr oedd wedi mynd i Red Granite, Wisconsin ym 1906 i gael gwaith
fel setsiwr. Daeth y ddau yn ôl ar yr un llong ym 1914 - flwyddyn
cyn i'r llong fynd i lawr.
Crefydd yn y Nant
Lle digon garw oedd y Nant yn nyddiau cyntaf y Barics. Yn ôl un
hanesydd lleol y pentref oedd "y lle mwyaf annuwiol ac anwaraidd yn
Llyn ac Eifionydd". Byddai'r gweithwyr yn treulio'u hamser mewn "gloddest
a meddwdod". Mae'n rhaid cofio wrth gwrs mai capelwr o Gymro oedd
yr hanesydd. Wrth i'r Nant dyfu penderfynon nhw godi adeilad pren ar y
ffordd i'r Barics i fod yn gapel ac yn ysgol. Enw'r adeilad oedd Y Babell
Goed. Byddai'r Parchedig David Evan Davies, Llithfaen, yn dod i lawr i'r
Nant i helpu ac i genhadu yn y pentref a byddai offeiriad yn dod i lawr
hefyd, bob yn ail ddydd Llun i'r rhai oedd yn Gatholigion. Ym 1875 daeth
Nant Gwrtheyrn yn eglwys yn perthyn i enwad y Methodistiaid Calfinaidd.
Dair blynedd wedyn pan gafodd y tai newydd eu codi, un o'r pethau yr oedd
yn rhaid ei gael oedd capel pwrpasol. Dyma gapel Seilo. Y gost oedd £300
ac roedd lle i 130 eistedd ynddo. Yn hwn roedd gwasanaethau'n cael eu
cynnal yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae Capel Seilo yno o hyd. Diflannodd
yr hen Babell Goed ar ôl storm fawr.
Addysgu'r Plant
Tua 1900 roedd 40 o aelodau yng Nghapel Seilo, dros 30 o blant yn perthyn
i'r capel a thua 60 yn mynd i'r Ysgol Sul ac roedd gan y Nant hawl i'w
gweinidog ei hun i gynnal gwasanaethau. Yn anffodus, dim ond am dymor
byr y byddai pob gweinidog yn aros. Rhan o waith y gweinidog oedd cynnal
ysgol ddyddiol i'r plant - rhyw fath o ysgol breifat dan ofal cwmni'r
chwarel. Yn un o dai "Mountain View" byddai'r ysgol yn cael ei
chynnal. Roedd yn addysg syml iawn. Wedi'r cwbl, doedd y gweinidogion
a fyddai'n dod i'r Nant erioed wedi cael eu hyfforddi i fod yn athrawon
ysgol. Weithiau, os oedd y capel "rhwng gweinidogion", byddai'n
rhaid i'r plant ddringo i fyny'r hen gamffordd i Lithfaen - neu aros gartref.
Ym 1908 daeth Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon i ofalu am yr ysgol a cheision
nhw wella'r dysgu. Roedd yn anodd iawn, fodd bynnag, gan fod yr athrawon
a'r plant yn newid mor aml. Roedd HMI - yr arolygwyr ysgolion - yn anhapus
iawn â'r sefyllfa. Un o'r arolygwyr hyn oedd Lewis Jones Roberts.
Ym 1910 awgrymodd newid enw'r ysgol "from the hybrid Port Nant into
the suggestive Nant Gwrtheyrn". Derbyniodd y Pwyllgor Addysg ei awgrym.
Adloniant
Doedd dim tafarn yn y Nant. Byddai'r gweithwyr cynnar yn rholio casgenni
i lawr yr hen gamffordd ond yn nes ymlaen dechreuodd pobl fynd i dafarn
y Vic yn Llithfaen. Mae sawl stori am ddamweiniau ar y ffordd i lawr yn
y tywyllwch. Un noson, bu gwraig o'r enw Mrs Butler farw ar ôl meddwi
a rhewi i farwolaeth ar y troad mawr hanner ffordd i lawr y mynydd. Troad
Butler ydy'r enw heddiw.
Mae stori hefyd am Sais o'r enw Barlow a oedd yn cerdded adref o'r Nant
yn hwyr un noson wedi yfed mwy nag un peint. Yn sydyn gwelodd rywbeth
du a oedd yn edrych fel dyn o'i flaen. Dychryn wnaeth e ac am funud doedd
e ddim yn gallu symud. Pan ddechreuodd y peth du symud trodd ar ei sawdl
a rhuthro'n ôl i Lithfaen a churo ar ddrws y ty cyntaf. Ar ôl
ei dawelu, daeth dau o'r dynion gyda fe i lawr i'r Nant. Pan ddaethon
nhw at y fan lle roedd e wedi cael ei ddychryn, stopiodd Barlow eto. Roedd
y bwgan yn dal yno. Ond roedd y ddau arall yn gallu gweld yn glir mai'r
cwbl oedd yno oedd coeden drain gwynion fechan. Am flynyddoedd wedyn Bwgan
Barlow oedd enw pobl y Nant ar y goeden honno.
Llongddrylliad yn y Nant
Byddai llongau yn gadael y Nant yn llawn o sets ond bydden nhw'n dod i
mewn yn llawn hefyd - yn llawn o bob math o nwyddau o Lerpwl. Oherwydd
hynny, byddai pobl yn tyrru i'r Nant o filltiroedd i ffwrdd i brynu pethau
nad oedd ar gael yn lleol. Un o'r llongau hyn oedd yr "Amy Summerfield".
Un noson stormus daeth hi at ochr y lanfa a chlymon nhw ei phen blaen.
Cafodd rhaff ei rhoi dros y capstan ond daeth yn rhydd a symudodd y llong
gerfydd ei hochr at y traeth. Ceisiodd y capten fynd â hi yn ôl
i'r dwr dwfn ond aeth y propeller yn erbyn y creigiau gan adael y llong
i'r gwynt a'r tonnau. Cafodd y llong ei dinistrio a bron iddynt golli'r
"stage" hefyd.
Dechrau'r Diwedd
Y blynyddoedd o 1878 hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf oedd blynyddoedd mawr
y Nant. Erbyn diwedd 1915 roedd nifer y plant yn yr ysgol i lawr i 17.
Caeodd Chwarel y Nant. Cafodd rhai o'r dynion waith yn Chwarel Cae'r Nant
a Charreg Llam ond symudodd eraill o'r pentref. Yn raddol, dechreuodd
pobl symud o'r hen Farics i'r tai gwag ym Mountain View a Sea View. Roedd
hyn yn beth lwcus achos un bore ym 1925 llithrodd y tir lle roedd y Barics
a syrthiodd y tai i'r traeth.
Cafodd Chwarel y Nant ei hail agor, mae'n wir, gan gwmni arall ac yn ystod
y tridegau roedd tipyn o fywyd yno pan oedd galw newydd am ithfaen ar
gyfer ffyrdd a thwneli. Dyna'r cyfnod mae Eileen M Webb yn ei ddisgrifio
yn ei llyfr "This Valley Was Ours (1983)". Roedd y capel a'r ysgol
ar agor. Roedd cymdeithas yn y Nant ond roedd yr hen lewyrch wedi mynd
am byth. Lle roedd 40 yn aelodau yn y capel cyn 1914, rhyw 12-15 oedd
yno yn y tridegau. Roedd mwy a mwy o bwysau ar deuluoedd i symud i Lithfaen
i fod yn nes at feddyg, siopau a'r ysgol uwchradd.
Pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd daeth dechrau diwedd cyfnod y chwareli. Caeodd
Chwarel y Nant am y tro olaf. Fesul un ac un gadawodd y teuluoedd. Yn
rhifyn 23 Gorffennaf 1948 o'r "Cymro" mae dau lun sy'n dweud y
cyfan - un o John Roberts a'i nith yn gadael eu ty yn y Nant i fyw yn
Llithfaen; un arall o ddau o ddynion y Nant yn rhoi celfi'r ysgol ar gar
llusg i'w cario i fyny'r allt. Symudodd dau neu dri theulu o sgwatwyr
o Loegr i fyw i'r tai gwag ym 1949 ac agorodd y Pwyllgor Addysg yr ysgol
am ddwy neu dair blynedd. Ond roedd dyddiau cymdeithas o chwarelwyr yn
byw yn y Nant drosodd.
Ailddechrau
Yn 1970, symudodd Dr Carl Clowes o Fanceinion i redeg meddyfga newydd
yn Llanaelhaearn. Roedd am godi ei blant yn Gymry Cymraeg. Fodd bynnag,
roedd y gymuned mewn trafferthion; roedd si bod chwarel Trefor yn mynd
i gau. Roedd ysgol Llanaelhaearn mewn perygl o gau oherwydd ei bod yn
rhy fach. Ym marn y meddyg newydd, roedd angen rhywbeth newydd ar yr ardal
a hynny ar frys.
Ar yr un pryd, roedd mwy a mwy o bobl yn dysgu Cymraeg. Roedd dosbarthiadau
yn cael eu cynnal ledled Cymru ac ysgolion haf yn cael eu trefnu gan gynnwys
y gyntaf yn Harlech yn 1961. Roedd teimlad ar led bod angen canolfan arbenigol
- canolfan iaith genedlaethol a fyddai ar agor drwy'r flwyddyn.
Daeth y ddau syniad ynghyd a daeth llu o diwtoriaid a chyfeillion at ei
gilydd i ddechrau cronfa ymddiriedolaeth er mwyn prynu pentref Nant Gwrtheyrn.
Prynu'r Pentref
Erbyn 1978 roedd ganddynt ddigon o arian (£25,000) i brynu'r pentref -
a oedd yn wag er 1959 - oddi ar gwmni Amie Road Stone. Dechreuwyd adfer
y tai ar unwaith ac, yn Ebrill 1982, daeth y grwp cyntaf ar gwrs i'r Nant
- ar waetha'r ffaith nad oedd ffonau na thrydan yno!
Acen yn Nant Gwrtheyrn
Bu Acen yn cynnal cyrsiau yn y Nant er 1989.
Hawlfraint: Yr Athro Bedwyr Lewis Jones, Elen Rhys.