Canser

Mae canser yn effeithio ar 1 o bob tri pherson ym Mhrydain, fel arfer y rhai dros 60 oed, ond mae'n gallu effeithio ar bobol o bob oed.

Mae tua 200 o wahanol fathau o ganser. Mae meddygon yn gallu trin a gwella nifer fawr o'r rhain os ydyn nhw'n gweld y canser yn ddigon cynnar.

Gallwn ni wneud llawer i osgoi cael canser drwy newid ein ffordd o fyw a chadw'n iach.

Y pethau i'w gwneud

Y canserau mwya cyffredin

Symptomau i'w gwylio


Mae'n bwysig bod pobol yn dysgu archwilio (examine) eu cyrff - merched eu bronnau a dynion eu ceilliau - am unrhyw lympiau neu newidiadau.

Gall merched gael eu sgrinio am ganser y fron a chanser ceg y groth. Os ydych chi'n meddwl bod rhywbeth yn bod arnoch chi, ewch i weld y meddyg yn syth.

Help

Hybu Iechyd Cymru
Ffynnon-las, Rhodfa Ty Glas, Llanisien, Caerdydd CF4 5DZ
01222 752 222

Canolfan Gwybodaeth Ganser
Tenovus
142 Whitchurch Road
Caerdydd

Llinell Gymorth Tenovus
0800 526 527
9am - 5pm, Llun-Gwener (ateb personol)
peiriant-ateb bob amser arall