
Y Llythyr
Dw i a Dave wedi bod yn mynd allan gyda'n gilydd ers pum mis. Rydyn ni'n cysgu
gyda'n gilydd ond rydyn ni bob amser yn defnyddio condom.
Ond mae problem, dw i'n meddwl fy mod i'n feichiog (pregnant).
Rydyn ni'n dod ymlaen yn dda, ond dw i ddim yn meddwl fy mod i'n barod i setlo
lawr gyda Dave. Dim ond 17 oed ydyn ni a dw i ddim yn meddwl fy mod i'n barod
i gael babi nawr.
Mae arna i ofn dweud dim byd wrth Dave; dw i'n siwr y bydd e'n grac. Alla
i ddim siarad gyda Mam a Dad - basen nhw'n mynd yn gwbwl bananas! Dydyn nhw
ddim yn gwybod ein bod ni'n cysgu gyda'n gilydd. Dw i'n gwybod na fasen nhw
eisiau i mi gael babi nawr, ond basen nhw yn erbyn erthyliad (abortion)
hefyd.
Help! Dw i ddim yn gwybod beth i'w wneud.
Ateb Kate
Rwyt ti'n ifanc iawn ac yn teimlo'n unig (lonely)
ac ofnus. Efallai nad wyt ti ddim yn barod i gael babi eto. Y peth cynta i'w
wneud ydy prynu offer i weld wyt ti'n feichiog. Mae'n costio tua deg punt ac
yn hawdd i'w ddefnyddio.
Cofia, mae damweiniau'n digwydd, hyd yn oed efo condoms.
Os wyt ti'n feichiog mae'n bwysig i ti siarad efo Dave. Bydd yn sioc iddo fo
wrth gwrs, ond byddi di angen ei help o, yn arbennig os nad wyt ti'n mynd i
ddweud wrth dy rieni.
Mae'n rhaid i ti gael help proffesiynol. Yn gynta, ewch gyda'ch gilydd i weld
y meddyg teulu. Bydd o neu hi yn gallu dweud ydy'n bosib i ti gael erthyliad
am ddim ar yr NHS.
Os nad ydy'r meddyg teulu yn cytuno ag erthyliad, rhaid i chi fynd at wasanaeth
cynghori ar feichiogrwydd (pregnancy advice service). Ond bydd yn rhaid
i chi dalu am gael erthyliad mewn clinig preifat.
Os wyt ti'n penderfynu cael erthyliad, fydd o ddim yn brofiad braf. Mae cael
erthyliad fel colli rhywun, fel rhywun yn marw. Byddi di a Dave yn falch ei
fod o drosodd, ond mae'n bosib y byddwch chi'n teimlo'n drist hefyd.
Help:
Eich meddyg teulu
BPAS
British Pregnancy Advisory Service
Ocean Chambers, Dumfries Place, Caerdydd CF1 4BN
01222 372 389
Gwasnaeth Cynllunio Teulu
(Family Planning Association)
01222 342 766
Life Cares Caerdydd
01222 340 991
am wasanaeth lleol, edrychwch yn eich llyfr ffôn
neu'r Yellow Pages (dan Pregnancy Test Services)