B.O.

Y Llythyr

Mae un o fy ffrindiau gorau yn diodde o broblem fach eitha sensitif - arogl chwys.

A nawr mae pobol wedi dechrau siarad amdano fe.

Help! Ddylwn i ddweud rhywbeth wrtho fe?

A sut dw i'n mynd i ddechrau sôn am y peth heb swnio'n gas?

Ateb Kate

Does dim pwynt bod yn ffrind os nad wyt ti'n barod i sôn am bethau fel B.O. A does dim ffordd hawdd o wneud hyn.

Mae hon yn broblem sy'n digwydd i lawer o bobol ac mae ateb hawdd iddi hi - ymolchi!

Chwys (sweat) sy wedi troi'n facteria ydy B.O. - y bacteria sy'n achosi'r arogl (smell). Felly, y ffordd i beidio â chael B.O. ydy ymolchi'n iawn bob dydd a defnyddio gwrthchwyswr (antiperspirant).

O ie! Mae rhai bwydydd fel cyrri a garlleg (garlic) yn gallu gwneud y broblem yn waeth.

Dw i'n siwr na fydd dy ffrind eisiau clywed beth sy gen ti i'w ddweud. Ac mae'n bosib hefyd y gwneith o ddweud wrthot ti lle i fynd! Ond o leia, byddi di wedi trio ei helpu o.