Ffeil: Cyffuriau

Llinell Gymorth Gymraeg: 0800 371 141 (10am-2am) Llinell Gymorth Saesneg: 0800 776 600 (24 awr)

Termau

anghyfreithlon illegal
arogli to sniff; to inhale
blinder tiredness
camddefnydd abuse
camddefnyddio to abuse; to misuse
camddefnyddio cyffuriau drug abuse/misuse
cyfnerthydd stimulant
cyfraith law
cyfreithlon legal
chwistrellu to inject
dibyniaeth dependency
dibyniaeth ar gyffuriau drug dependency
dibyniaeth gorfforol physical dependency
dibyniaeth seicolegol psychological dependency
dos dose
ffroeni to snort
goddef to tolerate; tolerance
gorddibyniaeth addiction
gorddos overdose
hwyliau oriog mood swings
iselder depression
marwolaeth death
meddiant possession
niwed damage
niweidio to damage
pryder anxiety
rhith(iau) hallucination(s)
rhith-weld to hallucinate
sgil-effeithiau side effects
symptomau diddyfnu withdrawal symptoms
ymosodedd aggression

Ffeithiau

Pa mor beryglus ydy cyffuriau?

* Does dim un cyffur sy'n 100% diogel.
* Mae llawer yn dibynnu ar y dos a pha mor aml mae'n cael ei gymryd.
* Mae llawer yn dibynnu ar y person - iechyd, pwysau (weight), dyn/merch
* Mae llawer yn dibynnu ar sut mae'r cyffuriau yn cael eu cymryd. Y ffordd fwya peryglus ydy chwistrellu.
* Wrth brynu cyffuriau anghyfreithlon, dydych chi ddim yn gwybod beth sy ynddyn nhw. Mae delwyr yn gallu cymysgu cyffuriau â'i gilydd a rhoi pob math o bethau eraill ynddyn nhw - o siwgwr i bowdwr talc i bowdwr glanhau.

Camddefnyddio cyffuriau

* Yn ôl y gyfraith, camddefnyddio ydy defnyddio unrhyw gyffur sy'n anghyfreithlon. Felly, dydy alcochol a thybaco ddim yn y categori yma.
* Ar lefel bersonol, mae defnyddio unrhyw gyffur sy'n gwneud niwed i'r corff yn gamddefnyddio.

Dibyniaeth a Gorddibyniaeth

* Mae dibyniaeth gorfforol yn digwydd ar ôl i berson gymryd cyffuriau fel heroin, tawelyddion ac alcohol am amser hir. Mae cemeg y corff yn gallu newid ac mae'r person yn dioddef symptomau diddyfnu.
* Mae dibyniaeth seicolegol yn gallu digwydd gydag unrhyw gyffur. Dyma sy'n digwydd pan fydd person yn teimlo fod yn rhaid cael y cyffur i'w helpu drwy'r dydd.
* Mae gorddibyniaeth yn digwydd pan fydd person yn treulio'i holl amser yn prynu a chymryd cyffuriau. Mae hyn yn digwydd fel arfer gyda chyffuriau fel heroin a cocên.

Goddef

* Wrth i berson gymryd mwy o unrhyw gyffur, mae'r corff yn dod i arfer â'r cyffur - mae'n goddef y cyffur - ac mae angen mwy a mwy i greu'r effaith mae'r person yn chwilio amdano.

Effaith cyffuriau

* Mae cyffuriau fel heroin, tawelyddion ac alcohol yn gallu arwain at ddibyniaeth corfforol neu symptomau diddyfnu.
* Mae cyffuriau fel amffetaminau, ecstasi a cocên yn gyflymwyr neu "uppers"; maen nhw'n cyflymu'r corff. Felly, maen nhw'n beryglus iawn i bobol sy'n dioddef o broblemau'r galon a phwysau gwaed.
* Mae cyffuriau fel heroin, toddyddion ac alcohol yn arafwyr neu "downers"; maen nhw'n arafu'r corff. Maen nhw'n beryglus iawn os ydyn nhw'n cael eu cymysgu achos fe all y corff stopio gweithio. Gorddos ydy hyn ac mae'n gallu achosi marwolaeth.
* Mae cyffuriau fel LSD a madarch hud yn achosi rhithiau. Maen nhw gwneud i bobol gael "trip" a gwneud pethau peryglus. Os ydych chi'n dioddef o salwch meddwl, ddylech chi ddim cymryd y cyffuriau yma na cannabis.



Mathau o gyffuriau

Amffetaminau (Amphetamines)
enwau eraill billy, speed, sulphate, uppers, whizz
ffurf powdwr, tabledi
dull cymryd powdwr - drwy'r trwyn, chwistrellu, tabledi - gyda diod
effaith cyfnerthydd, cadw person yn effro ac yn llawn bywyd
problemau iselder, blinder, paranoia, hwyliau oriog
y gyfraith cyffuriau dosbarth B
dosbarth A wrth chwistrellu
anghyfreithlon i fod â nhw yn eich meddiant (heb brescripsiwn), eu gwerthu neu eu roi nhw i eraill


Barituradau (Barbiturates)
enwau eraill barbs, downers, blues, reds, sekkies
ffurf tabledi fel arfer, ond hefyd ampylau (ampoules), tawddgyffuriau (suppositories), capsiwlau neu syrop
dull cymryd drwy'r geg fel arfer; drwy'r pen-ôl; chwistrellu
effaith helpu pobol i ymlacio
dos uchel fel effaith meddwi
problemau marwolaeth yn dilyn gorddos
y gyfraith cyffur dosbarth B
cyfreithlon drwy brescripsiwn


Cannabis
enwau eraill dope, draw, ganja, grass, hash, joint, marijuanna, shit, smoke, spliff, pot, weed
ffurf dail sych, had (seeds), resin, olew
dull cymryd smygu
effaith gwneud i chi ymlacio
problemau achosi dibyniaeth seicolegol
tar yn y mwg yn gwneud niwed i'r ysgyfaint
y gyfraith cyffur dosbarth B
anghyfreithlon i fod ag e yn eich meddiant, ei roi i eraill neu ei werthu


Cocên / Crac
enwau eraill coke, charlie, snow / rock, wash, stone
ffurf cocên - powdwr gwyn crac - cocên ar ffurf crisialau (crystals) bach
dull cymryd ffroeni, chwistrellu, smygu
effaith teimlo'n dda (euphoria), methu teimlo poen a blinder (tiredness)
problemau dibyniaeth gorfforol ar yr effaith
iwfforia'n newid i aflonyddwch (restlessness), nausea, insomnia, colli pwysau, paranoia
y gyfraith cyffur dosbarth A
anghyfreithlon i fod ag e yn eich meddiant, ei roi i eraill neu ei werthu


Ecstasi
enwau eraill E, disco burgers, diamonds, doves, echoes, XTC, fantasy, rhubarb & custard
ffurf tabledi (gwyn, brown, pinc, melyn)
dull cymryd gyda diod
effaith teimlad o "ruthr" (rush) yna teimlad o dawelwch; gwneud pobol yn fwy ymwybodol (aware) o bethau o'u cwmpas;
gyda dos uchel - panig, ofn a phryder (anxiety) yn bosib
problemau problemau cysgu a syrthni (lethargy)
tymheredd y corff yn codi - pwysig yfed dwr yn araf
marwolaeth yn dilyn dysychu (dehydration) a trawiad gwres (heat stoke)
dydy tabledi Ecstasi ddim bob amser yn bur; yn aml, maen nhw'n cynnwys pethau eraill sy'n gallu bod yn fwy peryglus
y gyfraith cyffur dosbarth A
anghyfreithlon i fod ag e yn eich meddiant, ei roi i eraill neu ei werthu


GHB (Gammahydroxybutyrate)
enwau eraill GBH, liquid X
ffurf hylif (liquid) di-liw a di-arogl (odourless)
dull cymryd drwy'r geg
effaith fel cyffur "downer"
problemau cyfog (nausea), chwydu (vomiting), cyhyrau wedi cyffio (stiff muscles), ffitiau
cryfder y cyffur yn amrywio (varies) peryglus i'w gymysgu ag alcohol
y gyfraith cynnyrch meddyginiaethol (medicinal product) anghyfreithlon i'w werthu


Heroin
enwau eraill smack, junk, H, skag, brown, horse
ffurf pur - powdwr gwyn
amhur - brown
dull cymryd chwistrellu, smygu, drwy'r trwyn
effaith teimlad cynnes, cysglyd
lladd poen
problemau cyfog (nausea), chwydu (vomiting)
gordddibyniaeth gorfforol
heroin y stryd yn cael ei gymysgu â phethau eraill
marwolaeth yn dilyn gorddos
y gyfraith cyffur dosbarth A
anghyfreithlon i fod ag e yn eich meddiant, ei roi i eraill neu ei werthu, ei ddefnyddio a'i gyflenwi (supply)


LSD
enwau eraill acid, trips, tab, blotters, dots
ffurf ar sgwariau bach o bapur sugno (blotting paper);
pils, tabledi, capsiwlau
dull cymryd drwy'r geg
effaith rhith-weld - dyma'r "trip" sy'n dechrau ar ôl 45 munud ac sy'n para 8-12 awr
problemau "trip drwg" - pryder, teimladau cas, paranoia
gall "flashbacks" ddigwydd
gall damweiniau ddigwydd yn ystod "trip"
gall LSD effeithio'r ymennydd ac achosi salwch meddyliol tymor-hir
y gyfraith cyffur dosbarth A
anghyfreithlon i fod ag e yn eich meddiant, ei roi i eraill neu ei werthu


Madarch Hud (Magic Mushrooms)
enwau eraill mae nifer yn tyfu'n wyllt ym Mhrydain
ffurf
dull cymryd bwyta
effaith rhith-weld (hallucination)
problemau dos isel: hapusrwydd
dos uchel: rhith-weld cas
pryder a panig; salwch, chwydu (vomiting), poenau stumog
effeithiau'n para 3-9 awr; unwaith mae'r effeithiau'n dechrau does dim ffordd i'w stopio nhw
perygl dewis madarch gwenwynig (poisonous)
y gyfraith amrwd (raw): dim problem
coginio, berwi, sychu, paratoi: anghyfreithlon (cyffur dosbarth A)


Popwyr (Poppers)
enwau eraill alkyl nitrites, liquid gold, hi-tech, rave
ffurf hylif (liquid) lliw aur mewn potel frown
dull cymryd ffroeni
effaith "rhuthr" (rush) - gostwng pwysau gwaed (lower blood pressure); curiad y galon yn fwy cyflym
problemau pen tost / cur pen; cyfog (nausea); llewygu (fainting)
problemau croen o gwmpas y geg a'r trwyn
llyncu (swallowing) - anymwybyddiaeth (unconsciousness) a marwolaeth
y gyfraith nwyddau meddygol ydyn nhw a dim ond doctoriaid a fferyllwyr sy'n gallu eu cyflenwi (supply)
anghyfreithlon i'w gwerthu mewn clybiau a rêfs


Steroidau Anabolig
enwau eraill
ffurf tabledi, hylif
dull cymryd drwy'r geg, chwistrellu
effaith adeiladu cyhyrhau (muscles) a chryfder
problemau dynion: ceilliau (testicles) yn mynd yn llai a tyfu bronnau merched: tyfu blew corff (body hair); bronnau llai; llais yn fwy dwfn
niwed i'r iau/afu
y gyfraith cyffuriau dosbarth C
ar gael ar brescripsiwn
anghyfreithlon i'w gwerthu neu eu rhoi i eraill


Tawelyddion (Tranquilisers)
enwau eraill valium, librium, ativan, temazepan
ffurf tabledi; capsiwlau
dull cymryd drwy'r geg
effaith tawelu iselder (depression), pryder, pwysau (stress), insomnia
problemau dos uchel yn gwneud pobol yn gysglyd
hawdd dod yn ddibynnol arnyn nhw
trio stopio yn achosi problemau - salwch, pen tost /cur pen, pryder, ffitiau
gorddos yn gallu achosi marwolaeth
peryglus iawn os ydy e'n cael ei chwistrellu
y gyfraith cyffur dosbarth C
ar gael ar brescripsiwn gan feddyg
anghyfreithlon i fod â temazepan yn eich meddiant heb brescripsiwn
anghyfreithlon i'w gwerthu nhw i bobol eraill


Toddyddion (Solvents)
enwau eraill
ffurf glud, chwistrell (spray), nwy butane, paent, hylif sychlanhau, petrol
dull cymryd arogli
effaith fel meddwi, pendro (dizziness), rhith-weld
problemau niwed i'r ymennydd (brain), iau/afu (liver), arennau (kidneys) ffroeni toddyddion mewn bag pastig yn gallu arwain at farwolaeth
5/6 person ifanc yn marw bob mis wrth gamddefnyddio toddyddion
y gyfraith anghyfreithlon i siopau werthu toddyddion i bobol ifanc dan 18