
Y Llythyr
Dw i'n 17 oed a dw i wedi bod yn mynd allan gyda Glyn ers tri mis. Rydyn ni'n
dod ymlaen yn dda iawn a dw i'n meddwl mwy ohono fe nag unrhyw fachgen arall.
Mae e eisiau i ni gysgu gyda'n gilydd, ond dw i ddim wedi cael rhyw gyda neb
o'r blaen.
Weithiau, dw i'n meddwl fy mod i eisiau cysgu gyda fe, ond dw i ddim yn siwr.
Mae arna i ofn iddo fe adael os dweda i "na". Dw i ddim eisiau'i golli
fe, ond dw i eisiau bod yn siwr fod yr amser yn iawn i mi.
Help! Dw i ddim yn siwr beth i'w wneud.
Ateb Kate
Dim ond ti sy'n gwybod wyt ti'n barod neu ddim. Os nad wyt ti'n siwr, paid!
Mae'n bwysig cymryd amser i feddwl beth rydych chi'ch dau yn mynd i'w wneud.
A meddwl hefyd sut byddi di'n teimlo amdanat ti dy hun wedyn.
Mae tri mis yn ddigon hir i ddod i nabod rhywun, ond paid â chytuno os
nad wyt ti'n teimlo'n barod. Os ydy Glyn yn dy garu di, mi wnaiff o aros nes
byddi di'n barod.
Ond, os wyt ti'n teimlo'n barod, popeth yn iawn. Gelli di benderfynu pryd a
ble i garu.
Ond mae bod yn ofalus yn bwysig, felly cofiwch am y condoms. Os na wnaiff Glyn
eu prynu nhw, mae'n bwysig i ti wneud hynny.
FFEIL: RHYW A RHYWIOLDEB