
Y Llythyr
Mae arholiadau pwysig gyda fi eleni. Wnes i ddim gweithio'n galed iawn llynedd,
felly mae'n rhaid i mi wneud llawer iawn mwy nawr os ydw i'n mynd i'w pasio
nhw.
Ond mae 'na broblem - Mam a Dad. Maen nhw'n ffraeo drwy'r amser a dw i ddim
yn gallu gweithio yn y ty pan maen nhw wrthi.
Help! Beth alla i wneud?
Ateb Kate
Mae dwy broblem yma - dy arholiadau a dy rieni.
Rwyt ti'n poeni am yr arholiadau, mae hynny'n naturiol. Mae gwneud yn dda yn
yr arholiadau yn bwysig i dy ddyfodol di. Ond i wneud yn dda, mae'n rhaid i
ti weithio a pharatoi yn ofalus.
Os dwyt ti ddim yn gallu gweithio gartref, beth am fynd i'r llyfrgell leol
neu weithio yn nhy ffrind?
Mae ffraeo dy rieni yn broblem i ti ac iddyn nhw. Rhaid iddyn nhw stopio ffraeo
drwy'r amser os ydyn nhw'n mynd i sortio'u problem nhw.
Ond mae eu ffraeo nhw yn cael effaith ddrwg arnat ti hefyd. Rhaid i ti ddweud
wrthyn nhw sut rwyt ti'n teimlo a'r effaith mae o'n ei gael arnat ti.
Unwaith y byddi di wedi gwneud yr arholiadau - ac os wyt ti dal yn anhapus
gartref - dyna'r amser i feddwl am adael.