
Y Llythyr
Dw i'n mynd allan gyda Marc ers 8 mis ac rydyn ni'n dod ymlaen yn dda iawn.
Y broblem ydy Emma, un o fy ffrindiau gorau. Does ganddi hi ddim cariad ac mae
hi wedi dechrau dod allan gyda Marc a fi drwy'r amser.
Doeddwn i ddim yn poeni llawer am hynny ar y dechrau ond wedyn, tua mis yn
ôl, fe ddechreuodd hi fflyrtio gyda Marc.
Dw i ddim yn gwybod beth i'w wneud. Dw i ddim eisiau colli Emma fel ffrind
a dw i ddim eisiau i Marc feddwl fy mod i'n gwneud ffys am ddim byd. Help!
Ateb Kate
Yn dy lythyr, rwyt ti'n dweud beth dwyt ti ddim eisiau. Ond tybed beth yn union
rwyt ti eisiau? Perthynas (relationship) gyda Marc neu edrych ar ôl
Emma?
Does ganddi hi ddim cariad ac mae'n bosib nad ydy hi eisiau i ti gael un chwaith.
Dw i'n meddwl ei bod hi'n swnio'n genfigennus (jealous)
ohonot ti a Marc ac felly mae hi'n gwneud popeth gallith hi i wneud i chi'ch
dau ffraeo.
Rhaid i ti ddweud wrth Marc sut rwyt ti'n teimlo. Efallai ei fod o hefyd yn
teimlo'n anhapus gyda'r sefyllfa (situation). Rwyt ti a Marc yn gwpwl, felly
ewch allan fel cwpwl.
Ond paid â ffraeo efo Emma. Mae ffrindiau'n bwysig, felly cofia gadw'n
ffrindiau efo hi. Dos allan efo Emma pan dwyt ti ddim efo Marc.
Dyna'r ffordd i gadw dy gariad a chadw dy ffrind!