Mae fy ffrindiau eisiau i mi gymryd cyffuriau

Y Llythyr

Mae 'na gang ohonon ni sy'n fêts, a weithiau rydyn ni'n mynd i glybiau. Ond yn ystod y mis diwetha, maen nhw wedi bod yn cymryd Ecstasi a Spîd.

Dw i ddim wedi gwneud - a dw i ddim eisiau. Ond dw i'n teimlo fy mod i'n cael fy ngadael allan o bethau.

Help! Dw i dim yn gwybod beth i'w wneud.

Ateb Kate

Dw i'n gwybod fod cyffuriau fel Ecstasi a Spîd yn rhan o fywyd y nawdegau. Ond mae 'na broblem fawr efo cyffuriau - dydy pobol ddim yn gwybod beth sy yn y stwff maen nhw'n ei brynu. Ac mae hynny'n beryglus iawn.

Does dim rhaid i ti fod fel dy ffrindiau i fwynhau bywyd. Rwyt ti wedi bod yn gryf ac wedi dweud NA wrth gyffuriau. Felly, mae'n amser i ti symud ymlaen a gwneud ffrindiau newydd.

Tria ddewis ffrindiau sy'n gwneud i ti deimlo'n dda amdanat ti dy hun. Mae'n bwysig dy fod di'n hapus efo'r person wyt ti a'r pethau rwyt ti'n eu gwneud.

Cofia. Does dim rhaid i neb gymryd cyffuriau. Ac mae dy ffrindiau yn torri'r gyfraith (law) drwy gymryd cyffuriau.

Ffeil: CYFFURIAU