
Y Llythyr
Dw i'n un deg saith oed ac mae gen i nifer o ffrindiau da. Yn ddiweddar, mae
rhai wedi bod yn gofyn pam does gen i ddim cariad.
Felly, dechreuais i fynd allan gydag Anna. Mae hi'n ferch hyfryd ac mae hi'n
olygus iawn, ond dw i ddim yn ei ffansïo hi o gwbwl.
Yr wythnos diwetha, es i weld Prifysgol Caerdydd. Wnes i aros gyda Siôn
- bachgen o'r pentre sy ar y cwrs dw i eisiau'i wneud y flwyddyn nesa.
Mae Siôn yn hoyw (gay).
Un noson, es i allan gyda Siôn a'i ffrindiau i glwb hoyw. Roedd hi'n noson
grêt a ches i lawer o hwyl. Roedd pawb mor gyfeillgar ac roeddwn i wrth
fy modd yn eu cwmni nhw.
Dw i'n teimlo'n gymysglyd (confused) iawn. Tybed ydw i'n hoyw? Os ydw
i, beth ddylwn i wneud?
Ateb Kate
Os wyt ti'n hoyw, mae'n rhaid i ti dderbyn hynny. Mae'n bwysig i ti fod yn
onest efo ti dy hun. Mae hynny'n bwysig i ti yn emosiynol.
Ac mae'n iawn i deimlo'n gymysglyd. Cofia, rwyt ti wedi tyfu i fyny efo pobol
sy'n credu mewn un math o berthynas (relationship).
Ond rwan, rwyt ti'n chwilio am math arall o berthynas.
Beth sy'n bwysig ydy dy fod di'n hapus efo'r person wyt ti ac yn ffeindio'r
berthynas sy'n iawn i ti.
Ond mae'n rhaid i ti fod yn deg efo Anna hefyd. Dwed wrthi hi dy fod di'n meddwl
ei bod hi'n ferch hyfryd, ond dy fod di ddim eisiau perthynas efo hi.
Efallai na fydd hi ddim yn hawdd i ti siarad efo'r teulu a ffrindiau. Dim ond
ti'n sy'n gwybod beth i'w ddweud a phryd a sut. Ond pob lwc i ti!