Dw i'n casáu fy hun

Y Llythyr

Dw i'n 16 oed a dw i'n meddwl fod Zoë Ball yn grêt. Baswn i wrth fy modd yn edrych fel hi, ond y broblem ydy fy mod i'n fyr ac yn pwyso gormod.

Dw i wedi trio colli pwysau trwy fynd ar ddeiet ac ymarfer corff, ond dw i o hyd yn dew.

Dw i'n teimlo mor anhapus ac isel achos mae fy ffrindiau i gyd mor denau. Pan dw i'n mynd i barti mae pawb yn cael hwyl ond dw i'n eistedd ar fy mhen fy hun mewn cornel.

Bob tro dw i'n teimlo'n anhapus dw i'n bwyta mwy i deimlo'n well. Ond ar ôl bwyta, dw i'n teimlo'n waeth eto.

Help! Dw i eisiau colli pwysau a theimlo'n well amdana i fy hun.

Ateb Kate

Rwyt ti'n swnio'n isel iawn i mi. Dyna beth sy'n digwydd os wyt ti'n cymharu (compare) dy hun â merched eraill.

Paid â trio bod fel sêr y teledu neu fodelau mewn cylchgronau neu ffrindiau tenau. Beth sy'n bwysig ydy gwneud y gorau o dy bwyntiau da ti dy hun.

Mae'n bwysig hefyd deall pa siap ydy dy gorff di a gwybod beth sy'n mynd i weithio i ti a beth sy ddim.

Ceisia wneud ychydig o ymarfer. Mae ymarfer yn gwneud i ti edrych yn well a theimlo'n well hefyd.

Paid â mynd i bartïon nes byddi di'n teimlo'n well amdanat ti dy hun.

A chofia, rwyt ti yn berson arbennig iawn. Mae bywyd yn rhy fyr ac mae'n bwysig mwynhau pob munud ohono!