Mae Mam yn embaras

Y Llythyr

Yn ôl nifer o fy ffrindiau, basen nhw'n hoffi gweld eu mamau nhw mor ifanc a trendi â Mam. Ond mae Mam yn embaras mawr i mi! Y broblem ydy ei bod hi'n gwisgo dillad llawer rhy ifanc - ddim fel rhywun yn eu pedwar degau!

Pan mae fy ffrindiau'n dod i'r ty, mae hi'n dod i eistedd gyda ni a dechrau siarad am bethau fel pêl-droed a rygbi, ac mae hi'n dweud mai PULP ydy ei hoff grwp hi. A nawr, dw i'n dechrau meddwl ei bod hi'n ffansïo un o fy ffrindiau!

Help! Beth alla i wneud?

Ateb Kate

Paid â phoeni cymaint! Mae dy fam yn swnio'n grêt!

Tybed ydy hi'n rhiant sengl, neu wyt ti'n unig blentyn? Os felly, mae'n naturiol y bydd ganddi fwy o ddiddordeb yn dy ffrindiau a dy fywyd di na mam sy'n byw efo partner.

Ffansïo un o dy ffrindiau? Tybed? Y cyfan mae dy fam yn ei wneud ydy trio bod yn gyfeillgar efo dy ffrindiau di. Mae'n swnio i mi fel rhywun sy'n mwynhau cwmni dynion.

Ond, os wyt ti'n teimlo'n lletchwith (awkward), rwan ydy'r amser i siarad efo hi a dweud sut rwyt ti'n teimlo. Ond bydd yn ofalus nad wyt ti'n brifo'i theimladau hi.

Cofia, rwyt ti'n lwcus iawn i gael rhywun fel hi yn fam - rhywun llawn hwyl! Edrycha ar ei hôl hi a bydd gen ti ffrind am oes (for life).