Obsesiwn

Y Llythyr

Dw i'n ysgrifennu ar ran fy ffrind, achos dydy hi ddim yn credu fod problem gyda hi o gwbl.

Dw i'n gwybod fod dilyn grwp pop yn rhywbeth hollol naturiol, rhywbeth mae bron pawb yn ei wneud.

Ond, i Miriam, mae dilyn Oasis wedi mynd yn obsesiwn - ac mae'n dechrau cael effaith ddrwg ar ei bywyd hi. Mae ei stafell hi fel cysegr (shrine) i'r band ac mae hi'n gorwedd yno am oriau yn gwneud dim ond gwrando ar y grwp.

Mae gyda hi bob peth mae Oasis wedi'i recordio erioed a hefyd pob math o bosteri, crysau-t a llyfrau am y grwp. Mae hi wedi gwario ffortiwn!

Yr wythnos diwetha fe ddiflannodd hi am ddiwrnodau ac roedd pawb yn poeni amdani hi. Roeddwn i'n poeni fod geiriau'r caneuon wedi gwneud iddi wneud rhywbeth twp. Ond na, roedd hi wedi cael lifft i Glasgow, achos roedd hi wedi clywed fod y band yn chwarae yno!

Beth alla i wneud i helpu?

Ateb Kate

Mae'n gwbwl naturiol i ddilyn grwp, ond dydy hi ddim yn normal i'w haddoli (to worship) nhw. Ffantasi ydy'r cyfan. Dydy o ddim yn real a dydy hi ddim yn byw bywyd normal.

Gofyn iddi hi beth yn union mae hi'n hoffi am Oasis. Ers faint mae hi'n eu hoffi nhw? A beth sy mor dda am y caneuon - y geiriau neu'r miwsig ei hun? Ydy hi mewn cariad â Liam neu Noel?

Efallai ei bod hi'n gweld y band fel ffrindiau, fel pobol sy'n gwneud iddi deimlo'n saff. Ac mae'r obsesiwn yn rhoi pwrpas i'w bywyd hi.

Ond efallai ei bod hi ddim yn gwybod bod ganddi hi obsesiwn. Roedd mynd i Glasgow heb ddweud wrth neb yn gwbl anghyfrifol (irresponsible).

Dwed wrthi hefyd bod gan lawer o bobol obsesiwn efo sêr y byd pop, chwaraeon, y teledu a ffilm. Ond obsesiwn ydy o sy'n eu stopio nhw rhag byw bywyd normal - ac mae hynny'n beth trist iawn.

Gofyn iddi hefyd sut mae hi'n gallu fforddio gwario cymaint o arian. Fel hyn, fydd ganddi hi ddim arian ar ôl!