
Y Llythyr
Dw i ddim wedi ysgrifennu llythyr fel hwn o'r blaen. Hyd at chwe mis yn ôl,
doeddwn i ddim wedi cael problemau mawr iawn.
Un dydd Sadwrn, roeddwn i allan yn siopa efo ffrind. Yn sydyn, ces i deimlad
o banic. Doeddwn i ddim yn gallu gweld yn glir, ddim yn gallu anadlu (breathe).
Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n cael trawiad ar y galon!
Erbyn hyn, dw i ddim yn gallu gadael fy stafell - ddim yn gallu mynd at y drws
ffrynt. Dw i ofn mynd allan o'r ty.
I ddechrau, roedd fy ffrindiau i gyd eisiau helpu, ond erbyn hyn dydyn nhw
ddim yn gofyn i mi fynd allan efo nhw.
Dw i mor unig (lonely).
Ateb Kate
Mae symptomau panig yn debyg iawn i strôc neu drawiad ar y galon. Yn
anffodus, mae'n nhw'n gallu digwydd unrhyw amser.
Os wyt ti ofn mynd allan drwy'r drws, mae'n swnio i mi dy fod di'n dioddef
o agoraffobia. Mae'n bosib cael triniaeth (treatment)
ond mae'n cymryd amser.
Yr ofn ydy'r peth gwaetha. Rhaid i ti gael help proffesiynol neu gall pethau
fynd yn waeth.
Mae grwp arbennig sy'n helpu pobol fel ti - NO PANIC. Mae ganddyn nhw gasetiau
a gwybodaeth a gallan nhw dy helpu di i deimlo'n fwy hyderus (confident).
Gelli di eu ffonio nhw ar 01952 590 545.