
(Sex & Sexuality)
Ffeithiau
Dydy rhywioldeb ddim yr un peth i bawb.
- Mae rhai pobol yn wahanrywiol (heterosexual).
Maen nhw'n cael eu denu (attracted)
gan bobol o'r rhyw arall.
- Mae rhai pobol yn gyfunrhywiol (homosexual).
Maen nhw'n cael eu denu gan bobol o'r un rhyw. Hoyw ydy'r enw am ddyn cyfunrhywiol
a lesbiad ydy'r enw am ferch gyfunrhywiol.
- Mae rhai pobol yn ddeurywiol (bisexual).
Maen nhw'n cael eu denu gan bobol o'r ddau ryw.
Mae llawer o bwysau (pressure)
ar bobol ifanc i gael partner.
- Does dim byd o'i le mewn bod heb bartner.
- Does dim amser iawn i gael partner.
Dydy pob person ifanc ddim yn cael rhyw!
- Mae'n well gan lawer aros.
- Does dim byd anarferol (unusual)
neu abnormal yn hynny.
Eich dewis CHI ydy pryd i gael rhyw.
- Arhoswch nes byddwch chi'n barod.
- Peidiwch â gadael i neb roi pwysau arnoch chi i gael rhyw.
Ydych chi'n barod i gymryd y cyfrifoldeb (responsibility)
o berthynas rywiol (a sexual relationship)?
- Os ydych chi'n ferch ac mewn perthynas rywiol fe allwch chi feichiogi (get
pregnant).
- Bob blwyddyn yn Mhrydain, mae tua 100,000 o ferched yn eu harddegau yn beichiogi.
- Yr unig ffordd i osgoi beichiogi ydy trwy ddull atal cenhedlu (birth
control/contraception).
- Mae nifer o ddulliau atal cenhedlu: condom; cap neu ddiaffram; y bilsen; mewnblaniad
(implant), chwistrelliad (injection);
IUS.
Os ydych chi'n ddyn neu'n ferch mewn perthynas rywiol, fe allwch chi gael
HIV, AIDS neu haint rhywiol (sexually transmitted disease/Std).
- Defnyddio condom ydy'r unig ffordd i amddiffyn (to
protect) eich hun a'ch partner.
- Mae 21% o'r bobol ym Mhrydain sy'n dioddef o AIDS yn eudauddegau.
- Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi dal haint rhywiol, dylech fynd at eich
meddyg teulu neu glinig GUM (genito-urinary
medicine clinic).
Cofiwch
Mae'n anghyfreithlon (illegal) i:
* fachgen neu ddyn gael rhyw gyda merch dan 16
* fachgen neu ddyn gael rhyw gyda bachgen dan 18
Cyngor
Os ydych chi eisiau cyngor (advice) ar faterion rhywiol, gallwch chi
gysylltu â:
Eich Meddyg Teulu
CCT - Cymdeithas Cynllunio Teulu (FPA
- Family Planning Association)
Ty Gwydr, Rhes Trefelian, Bangor, Gwynedd LL57 1AX
01248 352 176
(9-5 Llun-Gwener)
Ty Grace Phillips, 4 Maes yr Amgueddfa, Caerdydd CF1 3BG
01222 342 766 (9-5 Llun-Gwener)
Canolfannau Cynghori Brook i'r Ifanc (Brook
Advisory Centres for Young People)
0171 713 9000 (am gyfeiriad eich canolfan agosaf)
0171 617 8000 (llinell gymorth 24 awr)
cyngor ar:
* atal cenhedlu (contraception)
* beichiogi (pregnancy)
* erthylu (abortion)
* heintiau rhywiol (Stds)
* atal cenhedlu brys (emergency contraception)
HIV/AIDS
0800 37 11 31 (yn Gymraeg: 10am - 2pm bob dydd)
0800 567 123 (yn Saesneg: 24 awr y dydd)
Lesbian And Gay Switchboard
0171 837 7324
Childline
0800 1111
Trais Ac Ymosodiad Rhywiol (Rape & Sexual Assault)
"Rape Crisis" (Merched) 0171 837 1600
"Survivors" (Bechgyn/Dynion) 0171 833
3737 (Mawrth, Mercher, Iau, Sul)
Y Samariaid
0345 90 90 90
Llyfrynnau defnyddiol (useful
booklets)
Healthwise - Catalog FPA
FPA, 2-12 Pentonville Road, London N1 9FP
Sut Mae Eich Corff Yn Gweithio / How Your Body Works
Gwybodaeth ar gyfer bechgyn a merched (CCT/FPA)
- pamffled o ffeithiau am dyfu i fyny a'r mislif (period)
Rhywioldeb: Gwybodaeth i oedolion ifanc / Sexuality:
Information for Young Adults
(CCT/FPA)
- pamffled o ffeithiau am ryw, teimladau rhywiol, beichiogrwydd (pregnancy),
rhyw mwy diogel, dulliau atal cenhedlu (birth
control)
4 Boys
(FPA)
- pamffled i fechgyn a dynion ifanc
Let's Talk About Sex
Robie H Harris (Walker Books)
- llyfr i arddegion (teenagers)
Your Pocket Guide To Sex
Nick Fisher (Penguin)
- ffeithiau a chyngor i bobol ifanc
Boys About Boys
Nick Fisher (Pan Books)
- llyfr i fechgyn yn eu harddegau
Girltalk
Carol Weston (Pan Books)
- llyfr i ferched yn eu harddegau