Siopaholic

Y Llythyr

Dw i wedi bod yn siopaholig ers tua 4 blynedd. Dw i hefyd yn diodde o Bwlimia. Dw i wedi darllen mewn cylchgronau bod y ddau beth yn mynd gyda'i gilydd.

Weithiau, pan dw i'n deffro yn y bore, dw i'n teimlo'n isel iawn. Ond dw i byth yn poeni, achos dw i'n gwybod beth i'w wneud i deimlo'n well - mynd i siopa.

Erbyn hyn, alla i ddim stopio fy hun. Rhaid i mi gael help!

Ateb Kate

Rwyt ti'n iawn. Rhaid i ti gael help achos mae gen ti broblem fawr. Ffordd o gasáu dy hun ydy Bwlimia ac mae'n cymryd amser hir i ddelio efo fo.

Ond y peth cynta ydy delio efo'r busnes siopaholig yma. Rwyt ti'n meddwl y gwnaiff prynu dillad wneud i ti deimlo'n well.

Wrth gwrs, pan wyt ti yn y siop, rwyt ti'n mynd i deimlo'n well. Ond unwaith rwyt ti nôl yn y ty, rwyt ti'n mynd i deimlo'n anhapus eto a dechrau casáu dy hun.

Mae'n bwysig i ti siarad gyda meddyg. Mae gen ti broblem fawr ac mae'n mynd i gymryd amser i weld beth sy'n gwneud i ti deimlo mor anhapus. Ond mae'n rhaid i ti ofyn am help.