w w w . a c e n . c o . u k dysgwyr ar s4c


Cyfweliad gyda Nia Parry

cyfieithiad / translation

Nia Parry - Welsh in a Week

Ble caswoch chi eich geni a'ch magu?
Ces i fy ngeni yn Nwyran, Ynys Môn ond symudon ni i Landrillo yn Rhos ger Bae Colwyn pan oeddwn i'n bump oed.

Oes teulu?
Oes. Mae Mam a Dad yn dal i fyw yn Llandrillo yn Rhos ac mae fy mrawd bach, Dylan newydd orffen ei gwrs prifysgol ac wedi dechrau gweithio yn y cyfryngau yma yng Nghymru.

Welsh in a Week

Ble cawsoch chi eich addysg?
Ysgol Gynradd Bod Alaw, Bae Colwyn ac Ysgol Gyfun y Creuddyn, Bae Penrhyn. Wedyn es i Brifysgol Cymru Abertawe i astudio Cymraeg, Sbaeneg a Seicoleg.

Beth wnaethoch chi ar ôl gadael Abertawe?
Teithio o gwmpas y byd - i leoedd fel India, Nepal, Twrci, Israel ac Ariannin.

Ble dych chi'n byw nawr?
Yng Nghaerdydd lle roeddwn i'n gweithio yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg i Oedolion cyn gadael yn 2001 i ymuno â Fflic sy'n cynhyrchu Welsh in a Week ar gyfer S4C.

Beth ydy'ch diddordebau chi?
Cymdeithasu. Dw i'n hoff iawn o chwarae pêl-rwyd a dawnsio salsa, a hefyd mynd i'r sinema, y theatr ac i fwytai. Mae digon o ddewis yn y Brifddinas.

Dych chi wedi mwynhau gweithio ar Welsh in a Week?
Ydw, mae wedi bod yn ffantastig! Roeddwn i'n nerfus iawn o flaen y camera ar y dechrau. Ond mae wedi bod yn gyfle gwych i gwrdd â phobol ddiddorol a dysgu sgiliau newydd.

Dych chi wedi bod yn brysur iawn eleni (2002).
Ydw. Ffilmion ni 6 rhaglen gynta cyfres 2 rhwng Rhagfyr 2001 a Mawrth 2002, gan gynnwys ymweliad ffantastic â Patagonia. Yna, am 8 wythnos yn ystod Ebrill a Mai, roeddwn i'n rhan o dîm Fflic oedd yn ffilmio cyfres newydd o'r enw Cariad@Iaith ar gyfer S4C. Bydda i ar wyliau yn Barbados am 2 wythnos ym mis Mehefin cyn mynd yn ôl i ffilmio 9 rhaglen olaf Welsh in a Week 2 tan fis Hydref.

A beth am y dyfodol?
Mwy o waith teledu - gobeithio!


   Amserlen
   Rhaglenni
   Help

   Schedule
   Programmes
   Help
w w w . s 4 c . c o . u k