English
Ydych chi eisiau help i ddeall a dilyn rhaglenni Cymraeg? Beth am ddefnyddio gwasanaethau is-deitlo S4C?
Edrychwch ar dop dde eich sgrîn ar ddechrau rhaglen. Os ydy'r symbolau TRANSL888 a /neu 889 yna, gallwch chi ddewis rhwng is-deitlau Saesneg (TRANSL888) neu rai Cymraeg (889). Mae'r ddau wasanaeth hefyd yn cynnig help i bobl fyddar a phobl sy'n drwm eu clyw drwy gynnwys effeithiau sain. (Ar hyn o bryd, dydy is-deitlau 889 ddim ar gael ar S4C digidol.)
Mae gwasanaeth is-deitlau 889, sy’n cael ei ddarparu gan Acen, wedi newid. Nawr, mae'r gwasanaeth yma yn is-deitlo rhaglenni yn llawn heb esboniadau a heb symleiddio'r iaith. Gallwch chi glywed a gweld beth mae pawb yn ei ddweud a sut maen nhw’n siarad.
I allu deall a dilyn gwasanaeth newydd 889, mae’n rhaid i chi fod â dealltwriaeth o gystrawennau a ffurfiau berfol. Mae help ychwanegol ar gyfer Dysgwyr ar gael yma ar wefan Acen. Ewch i HELP.
Os ydych chi eisiau’r wybodaeth ddiweddaraf am is-deitlau ar raglenni
S4C, ewch i wefan S4C.