Robert Evans

The Challenge

To give a media interview in Welsh

Robert had to face questioning in an interview with Gwenllian Grigg, presenter of the BBC news review programme for Welsh learners.

G

Bore da, a gyda fi heddiw mae'r Prif Uwch Arolygydd Robert Evans o Heddlu'r De, sydd yma i drafod problem gyrru dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol.

Good morning, and with me today is Chief Superintendant Robert Evans from South Wales Police, who's here to discuss the problem of drug and alcohol realted driving.
G Bore da, Robert Evans. Good morning, Robert Evans
R Bore da. Good morning.
G Faint o bobol sy'n cael eu lladd ar ein ffyrdd ni bob blwyddyn? How many people are killed on our roads every year?
R Wel, diolch byth, mae nifer y marwolaethau wedi mynd i lawr. Llynedd, cafodd pedwar deg wyth o bobol eu lladd ar y ffyrdd yn Ne Cymru. Well, thank goodness, the number of deaths has gone down. Last year, 48 people were killed on the roads of South Wales.
G Ac ydy yfed a gyrru yn broblem fawr? And is drinking and driving a big problem?
R Ydy'n wir. Llynedd, cafodd dwy fil dau gant eu harestio am yfed a gyrru yn Ne Cymru. Yes indeed. Last year, 2200 were arrested for drinking and driving in South Wales.
G Beth yw'r (ydy'r) prawf yfed a gyrru? What is the test for drinking and driving?
R Wel, dyn ni'n rhoi prawf anadlu ar ochr y ffordd a phrawf anadlu, gwaed neu wrin yn Swyddfa'r Heddlu. Y ffin cyfreithiol ydy wyth deg miligram o alcohol mewn can mililitr o waed. Ond y cyngor cyngor ydy "Peidiwch ag yfed a gyrru o gwbl". Well, we give a breath test at the side of the road and a breath, blood or urin test at the Police Station. The legal limit is 80 milligrams of alcohol in 100 millilitres of blood. But the best advice is "Don't drink and drive at all".
G A pwy yw'r prif droseddwyr? And who are the main offenders?
R Prif droseddwyr yfed a gyrru ydy dyniol canol oed. Ond prif droseddwyr gyrru dan ddylanwad cyffuriau ydy pobol ifanc. The main offenders for drinking and driving are middle aged men. But the main offenders for driving under the influence of drugs are young people.
G Faint o broblem ydy pobol yn gyrru dan ddylanwad cyffuriau? How great a problem is driving under the influence of drugs?
R Ar draws Ewrop, mae pedair mil a hanner o farwolaethau bob blwyddyn oherwydd cyffuriau a gyrru. Across Europe, there are 4500 deaths every year because of drug related driving.
G Pa effaith mae cyffuriau yn ei gael ar yrrwyr? What effect do drugs have on drivers?
R Maen nhw'n meddwl yn arafach, gweld yn llai clir ac maen nhw'n cymryd mwy o risgiau. They think more slowly, see less clearly and they take more risks.
G I orffen, beth hoffech chi weld yn digwydd nesa? Finally, what would you like to see happening next?
R Mae eisiau cosbi pobol yn fwy llym a gwneud pobol yn fwy ymwybodol o'r peryglon. We need to punish people more severely (= increase the penalties) and make people more aware of the dangers.
G Robert Evans, diolch yn fawr iawn i chi. Robert Evans, thank you very much.