
![]() |
Mae Veronica yn dod o Leicester yn wreiddiol ac Atul o Kenya; heddiw maen nhw'n
byw yn Llansannan, pentre bach Cymraeg rhwng Llanrwst a Dinbych. Mae'r ddau
yn teithio o gwmpas y Gogledd ar y Bws Chwarae ac yn rhedeg cynlluniau chwarae
ar gyfer plant. Mae Veronica ac Atul wedi bod yn mynd i ddosbarthiadau Cymraeg
ac yn awyddus i ddefnyddio'r iaith yn y gymuned leol ac yn eu gwaith.
Veronica - from Leicester - and Atul - from Kenya - now live in the small
Welsh speaking village of Llansannan, between Llanrwst and Denbigh. The two
travel around North Wales in the Play Bus, running play schemes for children.
Veronica and Atul have already begun learning Welsh as they are eager to use
the language in their local community and at work.
Yr Her/The Challenge:
Cymryd sesiwn chwarae yn Gymraeg
To take a play session in Welsh
| Gwers 1 | Lesson 1 |
| Helo blant/bawb | Hello children/everybody |
| Atul dw i | I'm Atul |
| Dyma Veronica | This is Veronica |
| Croeso i'r Bws Chwarae | Welcome to the Play Bus |
| Sut dach chi? | How are you? (group) |
| Wyt ti'n iawn? | Are you alright? (informal) |
| Dach chi wedi gorffen? / Wyt ti wedi gorffen? | Have you finished? (group/individual) |
| Pwy sy wedi gorffen? | Who has finished? |
| Beth sy'n bod? | What's the matter? |
| Dw i wedi blino | I'm tired |
| Dw i wedi gorffen | I've finished |
| Dw i eisiau mynd i'r ty bach | I want to go to the toilet |
| Dw i eisiau Mam/Dad | I want my mother/father |
| Gwers 2 | Lesson 2 |
| Pwy sy eisiau pêl? | Who wants a ball? |
| Pwy sy eisiau chwarae pêl? | Who wants to play ball? |
| Pwy sy eisiau dysgu jyglo? | Who wants to learn to juggle? |
| Dach chi eisiau gwneud mwgwd? | Do you want to make a mask? (group) |
| Wyt ti eisiau help? | Do you want (any) help? (individual) |
| Beth dach chi eisiau wneud? | What do you want to do? (group) |
| Beth wyt ti eisiau chwarae? | What do you want to play? (individual) |
| Dewch yma | Come here (group) |
| Tyrd efo ni | Come with us (individual) |
| Ewch ar y bws | Go on the bus (group) |
| Dos at Veronica | Go to Veronica (individual) |
| Peidiwch â gweiddi | Don't shout (group) |
| Paid â rhedeg | Don't run (individual) |
| Dyna ddigon | That's enough |
| Pawb i mewn / allan | Everybody in / out |
| Gwers 3 | Lesson 3 |
| Dw i'n mynd i... | I'm going to... |
| Mae Veronica yn mynd i... | Veronica is going to... |
| Dw i'n mynd i ddangos i chi sut i jyglo | I'm going to show you how to juggle |
| Mae Veronica'n mynd i wneud masgiau | Veronica is going to make masks |
| Gwnewch hyn / Gwna hyn | Do this (group / individual) |
| Taflwch fel hyn / Tafla fel hyn | Throw like this (group / individual) |
| Dalwich y bêl yn y llaw chwith | Hold the ball in the left hand (group) |
| Dalia'r ffon yn y llaw dde | Hold the stick in the right hand (individual) |
| Da iawn | Well done |
| Ardderchog | Excellent |
| Eto / Unwaith eto | Again / One more time |
| Dalwich ati / Dal Ati | Keep going (group / individual) |
| Efo'ch partneriaid / Efo dy bartner | With your partners / With your partner |
| Na, fel hyn | No, like this |


